Ewch i’r prif gynnwys

Llwyddiant Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn

14 Chwefror 2020

Chemistry in 3D workshop

Dim ond un flwyddyn i mewn i'r prosiect, mae tîm Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn wedi llwyddo i gofrestru dros 2000 o ddisgyblion ysgol uwchradd ar y cynllun.

Gan weithio fel rhan o brosiect Trio Sci Cymru, dyma’r tîm â'r nifer mwyaf o ysgolion a disgyblion yn y prosiect, gydag o ddeutu 2200 o fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 3 o 12 o ysgolion.

Mae Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn yn cyflwyno gweithdai trochol ar Gemeg yn y 3ydd Dimensiwn yn seiliedig ar themâu pwysig fel cemeg gwyrdd a chynaladwyedd. Mae rhai o bynciau'r prosiect yn cynnwys bachu nwyon tŷ gwydr, llygredd plastig a glaw asid, gydag arddangosiadau ymarferol ac elfennau arbrofol ym mhob gweithdy. Roedd un gweithdy poblogaidd yn cyflwyno'r effaith mae bodau dynol yn ei gael ar yr amgylchedd i'r disgyblion, gan ddangos iddyn nhw sut mae cemegwyr ar y blaen gydag ymdrechion i fynd i'r afael â'r niwed a wneir.

Mae cael cefnogaeth tîm mor frwdfrydig o Brifysgol Caerdydd wedi helpu nid yn unig i ennyn diddordeb ein disgyblion, ond hefyd i’w hysbrydoli i ddod yn wyddonwyr.
Sophie Dobbs, Pennaeth Gwyddoniaeth Ysgol Gyfun Tredegar

Erbyn mis Ionawr 2020, roedd prosiect Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn wedi cyflawni o ddeutu 6600 o oriau ymgysylltu gyda thri gweithdy wedi'u cyflwyno hyd yma. Gyda dau weithdy arall wedi'u trefnu gydag ysgolion yn nhymor y gwanwyn a'r haf, y nod yw darparu cyfanswm o 11000 o oriau ymgysylltu erbyn diwedd ail flwyddyn y prosiect.

Gan adeiladu ar y pynciau a drafodwyd dros ddwy flynedd o ymweliadau, bydd blwyddyn olaf prosiect Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn yn dod i benllanw gyda'r holl ddisgyblion sydd wedi'u cofrestru ar y rhaglen yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd, i gael profiad o ddiwrnod mewn darlithfeydd a labordai'r Ysgol Cemeg.

Mae'r ymateb i'r gweithdai hyd yma wedi bod yn arbennig o gadarnhaol. Mae athrawon wedi dweud bod eu disgyblion yn dangos mwy o ddiddordeb a sylw nag erioed, gyda myfyrwyr yn dweud nad oedden nhw 'byth yn meddwl y gallai cemeg fod yn gymaint o hwyl ac mor ddiddorol'.

Dywedodd Sophie Dobbs, Pennaeth Gwyddoniaeth Ysgol Gyfun Tredegar: “Mae Ysgol Gyfun Tredegar yn wirioneddol werthfawrogi gweithdai Trio Sci Cymru. Rydym ni ar hyn o bryd ran o'r ffordd drwy'r rhaglen dair blynedd, a gallaf ddweud yn onest bod ein disgyblion ym Mlwyddyn 8 wedi elwa'n fawr o'r gwaith maen nhw wedi'i wneud gyda Phrifysgol Caerdydd hyd yma.

"Mae cyllidebau ysgol wedi cael eu torri flwyddyn ar ôl blwyddyn ac ychydig iawn o arian sydd gennym ni ar gyfer gweithgareddau ychwanegol; mae hyn wedi bod yn andwyol i gyfranogiad y disgyblion. Mae cael cefnogaeth tîm mor frwd o Brifysgol Caerdydd wedi helpu nid yn unig i ennyn diddordeb ein disgyblion, ond hefyd i'w hysbrydoli i ddod yn wyddonwyr.

"Mae'r gweithdai rhyngweithiol wedi bod yn arbennig o fuddiol yn helpu disgyblion i ddeall syniadau cymhleth, a thrwy hyn gael effaith sylweddol ar eu cynnydd. Mae pynciau y byddem ni wedi eu cyflwyno yn ystod Blwyddyn 9 wedi eu cyflwyno ym Mlwyddyn 7 ac rydym ni wedi gweld tystiolaeth o ddisgyblion iau'n derbyn damcaniaethau cymhleth yn llawer parotach na'n disgyblion hŷn. Allaf i ddim diolch ddigon i'r tîm am eu hymdrechion, a byddwn i wrth fy modd pe bai modd iddyn nhw wneud yr un peth gyda phob grŵp blwyddyn."

Os hoffech archebu gweithdy neu wybod mwy am Cemeg yn y 3ydd Dimensiwn, cysylltwch â trioscicymru@cardiff.ac.uk.

Rhannu’r stori hon