Gwyddonwyr yn darganfod adweithedd newydd deunyddiau di-fetel
19 Chwefror 2020
Mae ymchwilwyr yn Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi datgelu adweithedd newydd gyda systemau di-fetel.
Wrth i gwmnïau ddod yn fwyfwy ymwybodol o elfennau cynaladwyedd eu cynhyrchion a'u cadwyni cyflenwi, ceir ffocws cynyddol ar effaith amgylcheddol cynhyrchu. Mae hyn wedi sbarduno arloesi gan gemegwyr gan eu hysgogi i chwilio am drawsnewidiadau cemegol di-fetel newydd dan amgylchiadau mwy gwyrdd.
Caiff metelau trosiannol hyblyg, fel platinwm, copr a nicel, eu defnyddio'n helaeth fel catalyddion mewn prosesau gweithgynhyrchu. Ond mae natur wenwynol a chost puro cynhyrchion yn bryder ar hyn o bryd, yn enwedig yn y synthesis bwyd a chynhyrchion fferyllol, lle mae'n rhaid gwaredu unrhyw olion o'r metelau. Mae gan gatalysis di-fetel y potensial i wella cynaladwyedd cynhyrchion o'r fath yn fawr, gan arwain at lwybrau synthetig byrrach a mwy effeithlon.
Mae ymchwilwyr o'r Ysgol Cemeg a Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi defnyddio technegau Cyseiniant Parafagnetig Electron i ddod o hyd i adweithedd newydd gyda deunyddiau di-fetel. Archwiliodd y tîm adweitheddau anarferol Parau Radical Rhwystredig mewn synthesis organig gan ddefnyddio'r rhain i greu cyfansoddion cypledig C-C newydd. Mae'r alcenau swyddogaethol hyn yn darparu blociau adeiladu defnyddiol ar gyfer synthesis cyffuriau, cynhyrchion a deunyddiau naturiol, ac o bosibl hyd yn oed foleciwlau eraill sy'n ddefnyddiol yn fiolegol.
Cafodd Dr Rebecca Melen ei synnu â'r adweithedd a ganfuwyd, a dywedodd "Daethom ni o hyd i'r adweithedd electron sengl hwn ar ddamwain. Er syndod roedd ein hadweithiau'n lliw porffor dwfn, oedd yn arwydd bod radicalau'n cael eu ffurfio yn yr adwaith."
Mae'r ymchwil yn cynnig cefnogaeth gref i gyfosodiadau organig newydd wedi'u cyfryngu gan radicalau, a gwell dealltwriaeth o'r ffordd mae Parau Radical Rhwystredig yn gweithredu. Gallai'r canfyddiadau gael eu cymhwyso'n eang i greu cyfosodiadau moleciwlau perthnasol yn fiolegol at ddefnydd masnachol.
Mae'r erthygl lawn ar gael ar-lein yn Cell Reports Physical Science.