Ymchwil myfyriwr PhD o Gaerdydd yn ennill gwobr
12 Chwefror 2020
Mae Danielle Merrikin wedi ennill y wobr am y cyflwyniad llafar gorau yn wythfed Seminar Bwrsariaeth Blynyddol diweddar yr Awdurdod Digomisiynu Niwclear (NDA) i fyfyrwyr PhD, a gynhaliwyd ym Manceinion ar Ionawr 29
Cyflwynodd Danielle, sy'n cael ei goruchwylio gan Simon Pope ac Ian Fallis, ei hymchwil PhD â thema anorganig â'r teitl 'Element specific smart media for fast, low-cost radionuclide analysis'.
Nod gwaith Danielle, a gyllidir gan yr NDA, yw helpu i ddatblygu dulliau newydd o ddarganfod gwastraff ymbelydrol lefel isel sy'n fwy economaidd, effeithlon ac ecogyfeillgar. Caiff y prosiect ei gyd-oruchwylio gan y Labordy Niwclear Cenedlaethol ac mae'n cynnwys cydweithwyr o'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol
Mae'r wobr hon yn dilyn llwyddiant blaenorol Danielle yn 2018 pan enillodd y wobr am y poster gorau am ei hymchwil.