Ymchwilwyr yn datblygu adnodd newydd i helpu i ganfod arwyddion cudd o awtistiaeth mewn oedolion
17 Chwefror 2020
Mae ymchwilwyr wedi datblygu adnodd newydd posibl i helpu clinigwyr i ganfod arwyddion cudd o awtistiaeth mewn oedolion.
Fel arfer, plant sy’n cael diagnosis awtistiaeth, ond mae nifer cynyddol o oedolion yn cael diagnosis o’r cyflwr, hyd yn oed yn ystod canol neu ddiwedd oedolaeth.
Mae llawer o oedolion yn datblygu strategaethau seicolegol cydadferol i guddio eu symptomau oddi wrth glinigwyr, cyflogwyr a’u teuluoedd eu hunain, hyd yn oed.
Mae’r strategaethau hyn yn ei gwneud hi’n llawer mwy anodd rhoi diagnosis o’r cyflwr datblygiadol ac mae “perfformio” i ffitio i mewn i’r gymdeithas yn gallu rhoi straen meddyliol enfawr ar y person awtistig.
Dywedodd Eloise Stark, 30 oed, myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, a gafodd ddiagnosis awtistiaeth dair blynedd yn ôl, mai rhan anoddaf bod yn awtistig oedd ceisio “cuddio’r cyflwr”, a’i fod yn debyg i wisgo “masg”.
Nawr mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Coleg y Brenin, Llundain a Phrifysgol Caerfaddon wedi dyfeisio’r adnodd cyntaf posibl i helpu i ganfod strategaethau seicolegol sy’n cuddio arwyddion o awtistiaeth.
Mewn astudiaeth newydd, a gyhoeddir heddiw yn Molecular Autism, mae’r ymchwilwyr yn rhoi rhestr wirio o 31 o strategaethau cydadferol y gallai meddygon, seiciatryddion a seicolegwyr chwilio amdanyn nhw neu holi eu cleientiaid amdanyn nhw.
Datblygwyd y rhestr wirio drwy holi pobl awtistig am eu profiadau o ddefnyddio strategaethau seicolegol mewn sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd.
Meddai Dr Lucy Livingston, a arweiniodd yr ymchwil: “Drwy wneud hyn, llwyddon ni i lunio rhestr wirio o’r ‘sgriptiau cymdeithasol’ y soniwyd amdanyn nhw fwyaf, gan gynnwys copïo ystumiau a mynegiant wyneb pobl eraill, dysgu pryd i chwerthin am ben jôc heb ddeall pam mae’n ddoniol, a mynd ati yn fwriadol i wneud cyswllt llygaid, hyd yn oed pan allai hynny fod yn wirioneddol anghyfforddus.”
Yn ôl Dr Livingston, darlithydd seicoleg o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, sydd wedi gweithio ers blynyddoedd maith gyda phobl awtistig a gafodd eu diagnosis cyntaf pan oedden nhw’n oedolion, y cam nesaf fyddai profi ei effeithiolrwydd clinigol.
“Ar hyn o bryd, ychydig iawn mae gweithwyr proffesiynol yn ei wybod am y strategaethau hyn a beth i chwilio amdano. Gallai’r adnodd newydd, os gwelir ei fod yn effeithiol, helpu clinigwyr i roi asesiad am awtistiaeth i oedolion sy’n ymddangos heb fod yn awtistig neu’n ‘niwro-nodweddiadol’ ar yr wyneb, yn arbennig y rhai sy’n ddeallus dros ben,” meddai hi.
“Dylai bod yn ymwybodol o’r strategaethau hyn helpu clinigwyr i ddeall pa mor galed y gallai’r unigolyn fod yn gweithio i gadw’r wyneb hwn, o bosibl.
“Yn y pen draw, gallai hyn olygu bod pobl awtistig yn cael diagnosis mwy cywir ac amserol.”
Meddai Eloise: “Mae gan y gwaith hwn y potensial i helpu i adnabod awtistiaeth mewn pobl fel fi, sydd wedi mynd ‘o dan y radar’ hyd yma.
“Petawn i wedi cael fy niagnosis yn gynharach, efallai y baswn i wedi osgoi blynyddoedd o ymyriadau meddygol a seicolegol amhriodol, a baswn i hefyd wedi gallu mynd ati yn llawer cynharach i feithrin yr hunaniaeth awtistig gadarnhaol rwy’n ei mwynhau heddiw.”
Dywedodd Dr Livingston y gallai’r rhestr hefyd helpu clinigwyr i adnabod a chefnogi’r bobl awtistig hynny sydd ag anawsterau iechyd meddwl ychwanegol a brofwyd o ganlyniad i “esgus bod yn normal”.
Hefyd gallai gael ei ddefnyddio gan oedolion sy’n meddwl y gallen nhw fod yn awtistig neu sy’n chwilio am ddiagnosis i’w helpu i ddeall eu hymddygiad eu hunain, ychwanegodd.
Mae tua 700,000 o bobl yn y DU yn byw gydag awtistiaeth ac nid yw’n cael ei roi’n ddiagnosis i ddigon o fenywod; mae tair gwaith cymaint o ddynion ag sydd o fenywod yn cael diagnosis.
Meddai’r uwch-awdur Francesca Happé, sy’n Athro Niwrowyddoniaeth Wybyddol yng Ngholeg y Brenin, Llundain, “Mae ein gwaith yn gam tuag at helpu i adnabod mathau o ymddygiad cydadferol y mae pobl awtistig yn eu defnyddio, yn aml i osgoi bwlio ac ymateb negyddol gan gyfoedion niwro-nodweddiadol.
“Ein gobaith yw y bydd yn helpu diagnosis ac yn gwella dealltwriaeth o ba mor galed mewn gwirionedd mae llawer o bobl awtistig yn gweithio er mwyn ffitio i mewn i fyd sy’n aml yn elyniaethus.”
Stori Eloise
‘Dw i’n dysgu bod yn fwy awtistig go iawn ac yn Eloise go iawn, hyd yn oed os yw hynny’n golygu fy mod i’n sefyll allan weithiau.
Yr ymateb mwyaf cyffredin pan fyddaf i’n dweud wrth bobl fy mod i’n awtistig yw rhywbeth yn debyg i “wel, dwyt ti ddim yn ymddangos yn awtistig”. Dyna’r union bwynt, ac yn aml dyna ran fwyaf beichus byw fel menyw awtistig yn 2020; dw i’n aml yn ceisio ei guddio.
Ches i mo fy niagnosis tan ro’n i’n 27 oed, yn dilyn brwydr anodd â gorbryder ac iselder a’m gadawodd yn awyddus i gael atebion ynghylch pam ro’n i wedi teimlo’n “wahanol” erioed ond wedi ymdrechu’n daer i ffitio i mewn drwy gydol fy mywyd.
Roedd y broses hon o ffitio i mewn yn aml yn ymwneud â set gymhleth o reolau ac algorithmau a oedd yn fy ngalluogi i gydadfer oherwydd fy niffyg greddf gymdeithasol gynhenid. Mae cymdeithasu ychydig bach fel bod ymysg tyrfa o bobl, ac yn sydyn reit rydych chi’n anghofio sut i gerdded. Mae pawb o’ch cwmpas chi’n cerdded o gwmpas yn hamddenol ac mae’n rhaid i chi feddwl drwy bob agwedd ar sut i roi’r dilyniant echddygol at ei gilydd er mwyn sefyll yn syth a symud o un droed i’r llall. Yn aml, dyna sut mae bod yn awtistig ond ceisio ffitio i mewn. Mae’n cymryd egni, meddwl, ac er efallai ei bod hi’n ymddangos eich bod chi’n cerdded yn union fel pobl eraill, mae’n cymryd llawer mwy o ymdrech i sefyll yn syth ac ymddangos yn normal.
Mae rhai pethau’n hawdd eu cuddio – dysgais heb i neb ddweud wrtha i fod disgwyl i chi wneud cyswllt llygad â phobl. Wrth i mi dyfu’n hŷn, lluniais algorithmau i helpu i sgaffaldio fy ymddygiad cymdeithasol, fel edrych i ffwrdd am ddwy eiliad ar y tro am bob pedair brawddeg mewn sgwrs. Dw i’n gwybod, os bydd rhywun yn gwneud jôc, fod disgwyl i mi chwerthin os dw i’n meddwl ei bod hi’n ddoniol neu beidio.
Yn ddiweddar, dysgais sut i lunio cod cyfrifiadurol ac fe’m trawodd fod fy ymennydd cymdeithasol yn gweithio ychydig bach fel y cod ei hun – mewnbwn, rheol, allbwn. Arsylwi eraill, gweld beth maen nhw’n ei wneud, pa mor rhyfedd bynnag mae hynny’n ymddangos, ac ymddwyn fel nhw.
Fodd bynnag, dw i’n dysgu bod yn fwy awtistig go iawn ac yn Eloise go iawn, hyd yn oed os yw hynny’n golygu fy mod i’n sefyll allan weithiau. Mae tyfu mewn byd niwro-nodweddiadol yn gallu bod yn anodd a threuliais lawer o gyfnod fy arddegau a’m hugeiniau yn ceisio ffitio i mewn a chydadfer am fy hynodrwydd awtistig. Ond, wrth i mi gyrraedd fy mhen-blwydd yn 30 oed, gwariodd arnaf nad oes gwahaniaeth mewn gwirionedd a ydw i’n “ffitio i mewn” ac mewn gwirionedd, ond i mi ffynnu yn fy ffordd unigol fy hun, gallaf i roi’r gorau i gydadfer, i guddio ac i’m ‘masg’, a bod hynny’n iawn.’
Mae Eloise, 30, o Swydd Rhydychen, yn astudio ar hyn o bryd am DPhil mewn seiciatreg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Rhestr wirio
Gan ddefnyddio’r rhestr wirio, crynhodd yr ymchwilwyr strategaethau cydadferol mewn 117 o oedolion (58 gydag awtistiaeth, 59 heb awtistiaeth) i greu sgorau cydadfer rhifyddol. Gwelon nhw fod gan y rhai a gymerodd ran a oedd â diagnosis awtistiaeth neu’r rhai a oedd yn hunanadrodd nodweddion awtistig uwch (er enghraifft anawsterau wrth ddarllen meddyliau pobl eraill) sgoriau cydadfer uwch.
Byddai unigolion yn sgorio 1 (presenoldeb strategaeth) neu 0 (absenoldeb strategaeth) ar bob eitem ar y rhestr wirio:
- Rhagfynegi, cynllunio ac ymarfer sgyrsiau cyn iddyn nhw ddigwydd, yn uchel neu yn eich pen
- Dynwared ymadroddion, ystumiau, mynegiant wyneb, tôn llais wedi’u codi oddi wrth bobl eraill a/neu gymeriadau teledu/ffilmiau/llyfrau
- Dibynnu ar bropiau (e.e., ci, plant, gwrthrych diddorol) i strwythuro a llywio sgwrs
- Gwneud cyswllt llygad priodol, hyd yn oed os nad yw’n ddefnyddiol ar gyfer cyfathrebu a/neu’n anghymhellol NEU osgoi cyswllt llygad ond rhoi’r argraff o ddiddordeb cymdeithasol (e.e., edrych ar bont y trwyn, sefyll ar ongl 90° i’r partner rhyngweithio).
Gallai’r rhestr wirio gynnig cam cyntaf i glinigwyr i’w helpu i fesur strategaethau cydadfer yn ystod asesiadau awtistiaeth. Hefyd gallai wella ymwybyddiaeth o nodweddion mwy anweledig awtistiaeth i feddygon teulu, sy’n fan cychwyn i unigolion sy’n chwilio am ddiagnosis.
Defnyddiodd yr astudiaeth sampl a oedd yn cynnwys menywod deallusol abl yn bennaf, felly dywedodd yr ymchwilwyr y byddai angen rhagor o waith er mwyn gweld a oedd y canfyddiadau’n wir am y boblogaeth awtistig ehangach.
Cefnogwyd yr ymchwil gan Gyngor Ymchwil Meddygol (MRC) y DU a Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd y DU.