Ar gyfnod preswyl gyda Symffoni Utah
12 Chwefror 2020
Yr Athro Arlene Sierra wedi’i henwi’n Gyfansoddwr Cyswllt gyda Symffoni Utah.
Dros dymor 2020-2021, bydd y gerddorfa’n perfformio ei darnau “Aquilo” a “Nature Symphony” am y tro cyntaf yn UDA, yn ogystal â pherfformio comisiwn newydd “Bird Symphony” am y tro cyntaf erioed ym mis Ebrill 2021.
Ar ben y ffaith bod ei cherddoriaeth yn cael ei chwarae, bydd yr Athro Sierra’n teithio i gartref y Symffoni yn Ninas y Llyn Heli i ymgysylltu â’r gymuned leol fel llysgennad dros gerddoriaeth gyfoes.
Bydd y Cyfarwyddwr Cerddorol Thierry Fischer yn arwain y gerddorfa ar gyfer y perfformiad cyntaf o “Bird Symphony” yn y byd. Yr arweinydd Shiyeon Sung o Dde Corea, y fenyw gyntaf i ennill y brif wobr yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Rhyngwladol Syr George Solti, fydd yn arwain “Aquilo” ym mis Tachwedd eleni. Ludovic Morlot fydd yn arwain y gerddorfa yn y perfformiad cyntaf o “Nature Symphony” yn UDA ym mis Ionawr 2021, ar ôl arwain y perfformiad cyntaf o’r darn gyda Philharmonic y BBC ym Manceinion yn 2017.
Hefyd, bydd yr Athro Sierra’n gweithio gyda Symffoni Utah ar brosiect recordio gyda’r label clasurol o Efrog Newydd, Bridge Records. Mae Bridge wedi cyhoeddi tri disg portread o waith Arlene Sierra dros y degawd diwethaf, gan gynnwys disg cerddorfaol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2014. Fe wnaeth y recordiad hwn, ynghyd ag enwebiad Latin GRAMMY am ei gwaith “Moler”, dynnu sylw Symffoni Utah at ei cherddoriaeth. Perfformiodd Symffoni Utah “Moler” ym mis Ionawr 2020 a chafodd ei chanmol yn eang.
Meddai’r Athro Sierra, “Rydw i wedi edmygu gwaith Thierry Fischer a Symffoni Utah am lawer o flynyddoedd, yn enwedig eu hymrwymiad i’r gorau o gerddoriaeth newydd. Roedd cael gwahoddiad i wasanaethu fel Cyfansoddwr Cyswllt yn brofiad gwefreiddiol ac yn anrhydedd mawr, ac edrychaf ymlaen at ein prosiect cydweithredol celfyddydol sydd ar y gweill.”