Academi'r Gwyddorau Meddygol yn ariannu ymchwil i therapïau newydd
11 Chwefror 2020
Mae Academi'r Gwyddorau Meddygol yn ariannu ymchwil flaengar i ddarganfod meddyginiaethau ar gyfer anhwylderau cronni lysosomaidd.
Mae Dr Helen Waller-Evans o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobr Springboard gwerth £99,591, i ariannu ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer clefyd Niemann-Pick Math C.
Bydd y grant yn cefnogi datblygiad prawf labordy fydd yn dadansoddi effaith therapïau posibl ar y protein NPC1. Mae NPC1 yn ymwneud â chludo brasterau mewn celloedd, ac mae’r protein hwn yn chwarae rôl mewn sawl clefyd, gan gynnwys clefydau cronni lysosomaidd fel clefyd Niemann-Pick Math C.
Dywedodd Dr Helen Waller-Evans o’r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau: “Mae clefydau’r protein NPC1 yn tarfu ar y broses cludo braster a cholesterol mewn strwythurau cellog o’r enw lysosomau.
“Mae clefyd Niemann-Pick Math C yn effeithio ar tua un o bob 100,000 o bobl. Yn y cyflwr hwn, mae mwtaniad genynnol yn arwain at ddiffyg protein NPC1 a chroniad annormal o frasterau mewn celloedd.
“Gall cleifion â’r clefyd hwn brofi ystod eang o symptomau, gan gynnwys dueg neu afu chwyddedig, yn ogystal â chyflyrau niwrolegol.”
Mae ymchwil Dr Helen Waller-Evans yn canolbwyntio ar ddatblygu therapïau sy’n gweithredu ar broteinau lysosomaidd a nodweddu swyddogaeth targedau posibl ar gyfer cyffuriau. Mae ei labordy’n gweithio i ddatblygu profion sy’n asesu effeithiau cyffuriau newydd.
“Mae NPC1 yn chwarae rôl mewn sawl anhwylder cronni lysosomaidd, a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i ddatblygu offer i ymchwilio i therapïau posibl.
“Bydd y cyllid hwn o Academi’r Gwyddorau Meddygol yn cynnig sail i ni sgrinio am gyffuriau newydd fydd yn helpu i drin sawl anhwylder cronni lysosomaidd fel clefyd Niemann-Pick Math C.
“Yn y dyfodol, gallai hyn gael ei ddefnyddio ar gyfer clefydau eraill sy’n gysylltiedig â phrotein NPC1, fel twbercwlosis ac Ebola.
“Mae’r protein hwn yn chware rôl greiddiol mewn heintiau firol mewn clefydau fel Ebola, gan fod y firws yn defnyddio’r protein NPC1 i gael mynediad at gelloedd. Mae’n bosibl y gallai’r wybodaeth a gawn ni o hyn gael goblygiadau clinigol ar gyfer clefydau eraill,” ychwanegodd Dr Waller-Evans.