Ionawr Sych
14 Rhagfyr 2015
Heddiw, lansiodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC, ymgyrch Ionawr Sych tu allan i’r Senedd gyda chwaraewyr clwb rygbi Myfyrwyr Meddygol Caerdydd.
Mae’r her flynyddol, sy’n cael ei hybu gan yr elusen Alcohol Concern, yn gofyn i yfwyr cymdeithasol arferol fynd am fis crwn cyfan heb ddiferyn o’r ddiod, ac yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru. Dangosodd astudiaeth o ymgyrch 2015 fod:
- Mwy na 50,000 o bobl wedi addunedu’n ffurfiol i gael mis sych
- Bron i ddau draean wedi llwyddo i fynd trwy’r mis heb yfed o gwbl
- Mwy na dau draean yn yfed llai am weddill y flwyddyn
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC:
“Mae ein hymgyrch Newid Am Oes ar alcohol yn cynnig cyngor ar yfed yn gall trwy’r flwyddyn, ond cyfle gwych yw Ionawr Sych i ail-ystyried ein perthynas ag alcohol, yn ogystal â gwella ein hiechyd mewn nifer o ffyrdd, o bosib: pwysau gwaed a siwgr gwaed is, gwell cwsg, colli pwysau, a theimlo’n fwy egnïol.”
Dywedodd Capten Clwb Rygbi Myfyrwyr Meddygol Caerdydd, Joe Arthur:
“Fel myfyrwyr meddygol, mae gyda ni ddyletswydd i helpu sicrhau bod pobl yn deall y niwed mae goryfed yn gallu ei wneud i’w hiechyd a’u bywydau nhw. Nid dweud na fyddwn ni ddim yn yfed a mwynhau rydyn ni, ond ein bod ni’n deall bod angen yfed yn gymedrol.
“Mae’r ymgyrch Ionawr Sych yn cydnabod bod angen i ni gyd ystyried o bryd i’w gilydd faint rydyn ni’n ei yfed; a gan ei bod yn dod mor dynn ar sodlau’r Nadolig, mae’n amser perffaith i wneud hynny. Mae’n bleser gyda ni gynnig ein cefnogaeth.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell:
“Nid perswadio neb i roi’r gorau i alcohol unwaith ac am byth yw amcan Ionawr Sych. Rhoi ennyd i feddwl i bob un ohonon ni sy’n yfed yw’r nod; a chyfle, efallai, i newid ein harferion.
“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn cymryd sialens Ionawr Sych i fynd heb gwrw, gwin neu unrhyw ddiod alcoholaidd arall am fis crwn cyfan. Os yw hynny’n swnio’n ormod i chi, efallai dylech chi roi cynnig arno. Os yw e’n swnio’n rhwydd, beth am i chi ei drio?