Social Innovation for Political Transformation: Thoughts for a better world
14 Ionawr 2020
Mae llyfr newydd yn galw am newid systemig ar gyfer meithrin cymdeithas gynaliadwy, adfywiol sy’n seiliedig ar undod.
Mae Social Innovation as Political Transformation: Thoughts for a better world yn dod â gwaith gan academyddion ar arloesedd cymdeithasol a thrawsnewid gwleidyddol-gymdeithasol ynghyd. Mae’r llyfr a olygwyd gan Dr Abid Mehmood o Sefydliad Ymchwil Sustainable Places a chydweithwyr iddo yn KU Leuven yn cynnig dehongliadau amrywiol o’r cydgysylltiad rhwng arloesedd cymdeithasol a thrawsnewid gwleidyddol-gymdeithasol.
Mewn ymateb beirniadol i oruchafiaeth rhesymeg hunanol y farchnad ac echdynnu adnoddau naturiol o'i herwydd yn oes 'neoryddfrydiaeth sy'n malio', mae'n galw am newid systemig ar gyfer meithrin cymdeithas gynaliadwy, adfywiol sy'n seiliedig ar undod.
Mae’r gwaith yn cynnwys cyfraniadau gan 55 o awduron, sy’n dod a thrafodaethau hanesyddol, dadleuon cyfredol a syniadau ar gyfer y dyfodol ynghyd ar ffurf traethodau amrywiol, esboniadau byr ac achosion enghreifftiol. Ac yn cwmpasu pynciau megis: Economeg Keynesaidd a datblygiad rhanbarthol; ymfudo, cymdogaethau a chymunedau; diwylliant, diffyg datblygiad a chysylltiadau eang rhwng De a Gogledd y Byd.