Ymchwil newydd yn archwilio effaith defnyddio tecstilau ar amgylcheddau dŵr croyw
10 Chwefror 2020
Mae’r galw byd-eang am decstilau synthetig a naturiol yn rhoi amgylcheddau dŵr croyw o dan bwysau cynyddol.
Mae ymchwil ryngddisgyblaethol newydd gan Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd yn dangos sut mae prosesau technolegol a chymdeithasol yn dylanwadu ar sut caiff tecstilau eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu ar draws y byd.
Arweiniwyd y gwaith gan Catherine Stone, myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, a ddywedodd: ‘Roedd yn wych cael cyfle i weithio fel rhan o gymuned ymchwil a chyhoeddi papur yn ystod fy nghyfnod israddedig. Fe agorodd y drws i lu o bosibiliadau i’r dyfodol'.
Daeth yr ecolegwyr, Dr Fred Windsor a’r Athro Isabelle Durance, a’r economegydd yr Athro Max Munday, at ei gilydd i weithio ar y prosiect, sy’n dadansoddi effaith amgylcheddol tecstilau ar ansawdd a iechyd ecolegol dŵr croyw.
Cymharwyd dau fath amlwg o decstilau, un synthetig (Polyethylene terephthalate PET) ac un naturiol (gwlân) er mwyn dangos y risgiau i ecosystemau dŵr croyw ar hyd cylch oes tecstilau, wrth iddynt gael eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu. Mae’r ymchwil yn dangos bod tecstilau synthetig a naturiol yn cynhyrchu amrywiaeth o lygryddion amgylcheddol ar hyd eu hoes. Mae tecstilau synthetig yn creu mwy o lygredd yn y cyfnod gwaredu, tra bod tecstilau gwlân yn creu mwy o lygredd yn y cyfnod cynhyrchu.
Bu’r ymchwil hefyd yn ystyried sbardunau cymdeithasol ac economaidd effeithiau amgylcheddol, ac yn creu cysylltiadau rhwng masnachu tecstilau, lleoliad diwydiant, a lefelau rheoleiddio amgylcheddol gwladwriaethau.
Yn ôl yr Athro Max Munday: 'Nid yw costau amgylcheddol llygryddion o’r fath wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar draws y byd. Mae’r rheoliadau amgylcheddol yn y gwledydd lle mae llawer o’r decstilau’r byd yn cael eu cynhyrchu yn llawer llai llym’.
'Mae’n hanfodol defnyddio prosesau amgen a datblygu atebion technolegol i leihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu, defnyddio a gwaredu tecstilau. Fodd bynnag, dylid gweithredu newidiadau cymdeithasol hefyd – o newid ymddygiad i wella’r ddeddfwriaeth ar lygredd tecstilau.
Cewch ddarllen y cyhoeddiad llawn yn Science of the Total Environment.