Y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cyllid i gefnogi rhagor o fyfyrwyr Cymraeg i astudio meddygaeth a deintyddiaeth
6 Chwefror 2020
Ar ymweliad ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd heddiw (dydd Iau 6 Chwefror 2020), bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC, yn cyhoeddi cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi rhagor o ddarpar fyfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth Cymraeg i ymgeisio’n llwyddiannus i’r brifysgol.
Cafodd cynllun Doctoriaid Yfory, sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, ei lansio am y tro cyntaf ym mis Medi 2018 er mwyn annog mwy o ddisgyblion Cymraeg chweched dosbarth i ymgeisio’n llwyddiannus i astudio Meddygaeth yn y brifysgol.
Mae’r cynllun wedi rhedeg am ddwy flynedd ar draws Cymru gyda darpar feddygon yn manteisio ar raglen gefnogaeth wedi ei thargedu, sy’n cynnwys dosbarthiadau meistr ac ysgolion haf wedi eu cynllunio er mwyn datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’w ceisiadau a’u hastudiaethau yn y dyfodol. Wrth gael eu mentora gan ddoctoriaid a myfyrwyr meddygaeth Cymraeg, mae’r rheiny a gymerodd ran yn y cynllun wedi datblygu dealltwriaeth amhrisiadwy o’r heriau a’r cyfleoedd i hyfforddi a gweithio fel doctor yn y GIG yng Nghymru.
Dechreuodd y garfan lwyddiannus cyntaf o fyfyrwyr Doctoriaid Yfory eu hastudiaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ym mis Medi 2019 pan welwyd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr Cymraeg yn cofrestru ar y cwrs. Bydd y Gweinidog Iechyd yn cwrdd â rhai o’r myfyrwyr blwyddyn gyntaf a gymerodd ran yn y cynllun gwreiddiol sydd nawr yn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a rhai o’r mentoriaid a oedd yn eu cefnogi.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi cyllideb newydd o dros £15,000 heddiw. Bydd y gyllideb yn caniatáu i’r cynllun redeg am ei drydedd flwyddyn ac am y tro cyntaf, bydd yn darparu cefnogaeth ar gyfer myfyrwyr Deintyddiaeth.
Nod hir dymor y cynllun yw mynd i’r afael ag amcanion strategaeth Mwy Na GeiriauLlywodraeth Cymru er mwyn cryfhau gwasanaethau gofal ac iechyd Cymraeg.
Yn siarad cyn yr ymweliad heddiw, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AC:
“Wrth galon ein fframwaith strategol Mwy Na Geiriau yw’r gred bod gallu defnyddio’ch iaith eich hunan yn rhan annatod o ofal. Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw â’i gilydd ac mae gennym gyfrifoldeb i sefydlu diwylliant cefnogol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i siaradwyr Cymraeg.
“Mae’r digwyddiad hwn yn cydnabod, ac yn dathlu, gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n rhan o lwyddiant y cynllun Cefnogi Gyrfaoedd Meddygol.”
Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Rydym wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cynllun Doctoriaid Yfory a’i gyfraniad pwysig i sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu cwrdd ag anghenion Cymru ddwyieithog. Mae angen dybryd i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yng ngweithlu’r GIG er mwyn i bobl dderbyn gofal yn eu hiaith ddewisol.
“Mae’r Coleg Cymraeg yn ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am ymrwymo i ariannu’r cynllun am y drydedd flwyddyn ac yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid er mwyn darparu cefnogaeth i’r darpar fyfyrwyr a fydd yn dod yn ddoctoriaid a deintyddion yfory.”
Ar ran Prifysgol Caerdydd, meddai Dr Rhian Goodfellow, Cyfarwyddwr C21:
“Mae’n bwysig ein bod ni’n denu’r darpar fyfyrwyr Meddygaeth disgleiriaf o bob rhan o’r DU. Ond, mae’n rhaid i ni ar bob achlysur ystyried anghenion iaith ein cleifion. Pan rydych chi’n sâl gall olygu llawer i gael eich trin yn eich iaith ddewisol. Mae’r prosiect hwn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i’n myfyrwyr Cymraeg. Bydd yr impact i’w weld ar draws y GIG yng Nghymru ac rydw i wrth fy modd yn gweld y cyhoeddiad am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.”