Instagram: Cartref yr Hunlun
5 Chwefror 2020
Yw’r platfform hwn ar y cyfryngau cymdeithasol yn newid wyneb celf a phortreadaeth gyfoes?
Lle i rannu ein bywydau a bwrw cipolwg ar fywydau pobl eraill yw Instagram - o ffrindiau a theulu i enwogion a dylanwadwyr.
Ond sut mae’r cwmni hwn, sy’n werth biliynau o ddoleri, yn newid wyneb portreadaeth gyfoes?
Beth mae’n ei olygu i ddod ar draws ffotograffau fel rhan o ffrwd ddiddiwedd Instagram?
Bydd haneswyr celf, ysgolheigion y cyfryngau ac artistiaid gweledol yn trafod Instagram: Symposiwm yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ar 29 Chwefror. Y symposiwm hwn yw menter ddiweddaraf Image Works: Ymchwil ac Ymarfer mewn Diwylliant Gweledol, grŵp ymchwil newydd a phlatfform ymgysylltu cyhoeddus gan gynhelir gan yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Dr Alix Beeston, Cynullydd Image Works:
“Rwy’n gyffrous i ddod ag ystod o arbenigwyr mewn diwylliant gweledol ynghyd i drafod Instagram fel fforwm pwysig ar gyfer hunan-gynrychiolaeth a mynegiant mewn bywyd cyfoes. Byddwn yn canolbwyntio yn enwedig ar hunluniau a’u safle o fewn traddodiad hirach o bortreadaeth ffotograffig. Byddwn hefyd yn clywed gan artistiaid yn Ne Cymru a’r tu hwnt - pobl sydd wedi defnyddio’r platfform mewn ffyrdd arloesol i gefnogi neu estyn eu hymarfer.’
Mae’r siaradwyr yn cynnwys Huw Alden Davies (artist), Dr Alix Beeston (Prifysgol Caerdydd), Federica Chiochetti (Photocaptionist), Dr Bronwen Colquhoun (Amgueddfa Genedlaethol Cymru), Yr Athro Alexandra Georgakopoulou (Coleg Prifysgol Llundain), Michal Iwanowski (artist), Celia Jackson (Prifysgol De Cymru), Dr Alexandra Kingston-Reese (Prifysgol Efrog) a Dr Cadence Kinsey (Coleg Prifysgol Llundain).
Instagram: Mae Symposiwm yn cyd-daro â Thymor Ffotograffiaeth yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd a phenwythnos olaf Ystafelloedd Artistiaid: August Sander, arddangosfa o beth o’r bortreadaeth bwysicaf yn hanes y cyfrwng.
Mae tocynnau Symposiwm (£5) yn cynnwys taith dywys o’r arddangosfa, a fydd yn galluogi cyfranogwyr i gnoi cil ar sut mae ein diwylliant digidol yn ymgysylltu â hanes ffotograffiaeth - y tu fewn a’r tu allan i’r oriel. Mae hwyluso Cymraeg ar gael trwy gysylltu â’r Amgueddfa ymlaen llaw.
Cyflwynir #InstagramSymposium gan Image Works mewn partneriaeth â’r Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd ac mae wedi ei noddi gan Brifysgol Caerdydd.