Academydd o Brifysgol Caerdydd yn ymgymryd â rôl newydd uchel ei bri
6 Chwefror 2020
Mae academydd o Brifysgol Caerdydd wedi’i gyhoeddi’n Gadeirydd newydd Cymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol y DU (PSA).
Bydd Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, yr Athro Roger Awan-Scully, yn arwain y gymdeithas ddysgedig dros y tair blynedd nesaf. Mae’r Athro Claire Dunlop o Brifysgol Caerwysg yn ymuno ag e fel Is-gadeirydd.
Ac yntau’n aelod gweithredol a phrofiadol o’r Gymdeithas, bydd yr Athro Awan-Scully yn dod â chyfoeth o sgiliau academaidd, cyfathrebu a phroffesiynol i’r rôl. Fe yw cyn-enillydd gwobr Cyfathrebwr Astudiaethau Gwleidyddol y Gymdeithas, ac yn 2019, fe enillodd y Wobr Mentora Genedlaethol yng nghategori’r prifysgolion.
Meddai: “Y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol yw prif gymdeithas ddysgedig y DU i’r rheiny sy’n astudio ac yn addysgu gwleidyddiaeth, ac mae’n un o’r cymdeithasau mwyaf o’i math yn y byd. Felly, mae cael fy ngofyn i arwain y gymdeithas yn un o’r anrhydeddau mwyaf all unrhyw wyddonydd gwleidyddol ei gael.
“Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn dilyn yn ôl traed llu o ysgolheigion nodedig iawn sydd wedi cadeirio’r Gymdeithas hon. Mae hefyd yn fraint bod y person cyntaf o brifysgol Gymreig i arwain y gymdeithas.
“Y tair thema a bwysleisiais i yn fy nghais i fod yn Gadeirydd y Gymdeithas oedd Rhagoriaeth, Cynaliadwyedd ac Amrywiaeth. Rydw i wir yn edrych ymlaen at weithio gyda staff gwych y gymdeithas, gyda’i bwrdd ardderchog o ymddiriedolwyr, gan gynnwys yr Is-gadeirydd newydd Claire Dunlop, a gyda’i haelodaeth sy’n tyfu ac yn amrywiaethu, er mwyn sbarduno gwelliannau ym mhob un o’r tri maes hyn.”
Cafodd yr Athrawon Awan-Scully a Dunlop eu penodi gan Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas ar ôl proses gystadleuol. Byddant yn ymgymryd â’u rolau yn ystod Cynulliad Blynyddol y Gymdeithas ym mis Ebrill, yn ei chynhadledd ryngwladol flynyddol yng Nghaeredin, lle bydd tymhorau’r Cadeirydd yr Athro Angelia Wilson a’r Is-gadeirydd Feargal Cochrane yn dod i ben.