Academydd o Gaerdydd yn archwilio seibr-ddiogelwch sy'n canolbwyntio ar bobol
4 Chwefror 2020
Mae academydd o Gaerdydd yn arwain Cyflymydd Airbus newydd i geisio gwell dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau seibr dynol, a dulliau o ryngweithio'n ddiogel gyda systemau digidol mewn sefydliadau.
Mae'r Cyflymydd Seibr-ddiogelwch sy'n Canolbwyntio ar Bobl, yng Nghanolfan Arloesedd Seiber Airbus yng Nghasnewydd, yn dod ag arbenigwyr ym maes seicoleg ffactorau dynol ynghyd, yn ogystal ag ystod o bartneriaid gan gynnwys Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Seibr-ddiogelwch Genedlaethol y DU.
O dan arweiniad technegol Dr Phillip Morgan o'r Ysgol Seicoleg, mae'r fenter yn cyfuno cyfoeth o arbenigedd y Brifysgol â thimau arloesedd, partneriaid a gallu masnachol Airbus.
Yn hanesyddol, awgrymir mai pobl yn aml yw'r ddolen 'fwyaf bregus' yn y gadwyn seibr-ddiogelwch. Ar gyfartaledd, mae negeseuon gwe-rwydo bellach yn cynrychioli un o bob 200 ebost mae defnyddwyr yn eu derbyn1, ac yn fyd-eang, peryglwyd 990 miliwn o gofnodion oherwydd camgymeriadau dynol y llynedd2. Ond nod y tîm y tu ôl i'r Cyflymydd Airbus newydd yw dangos bod pobl yn gallu bod yn amddiffyniad seibr cryf i sefydliadau, drwy ymyriadau effeithiol yn seiliedig ar ymchwil sy'n ymwneud er enghraifft â gwahaniaethau unigol, gwybyddiaeth addasol, a rhyngweithio dynol-cyfrifiadurol.
"Mae'r rhaglen yn cynrychioli'r cyflymydd ymchwil 'cyntaf o'i fath' mewn sefydliad masnachol – sy'n ddull newydd ar gyfer y diwydiant seibr-ddiogelwch," yn ôl Dr Morgan, sydd ar secondiad dair blynedd i Airbus.
"Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r Brifysgol gan ei fod yn gadael i ni weithio o fewn Airbus, gyda gweithlu o dros 135,000, a thîm o dros 800 o arbenigwyr diogelwch i ffurfio a chyflymu rhaglenni a phrosiectau ymchwil ym maes hanfodol seibr-ddiogelwch sy'n canolbwyntio ar bobol.
"Yn ogystal â chyllido fy swydd i fel Arweinydd Technegol y cyflymydd, mae Airbus eisoes wedi buddsoddi mewn pobl eraill o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, yn cynnwys Cydymaith Ymchwil a dau fyfyriwr PhD.
Mae'r bartneriaeth wedi'i chefnogi gan Airbus Endeavr Cymru - menter ar y cyd rhwng Airbus a Llywodraeth Cymru i sbarduno a chyflawni arloesedd yng Nghymru.
Ychwanegodd Dr Morgan: "Ein nod yw herio'r canfyddiad cyffredin yn y diwydiant seibr-ddiogelwch mai 'pobl yw'r rhan wannaf o’r gadwyn bob amser,' a byddwn yn cynnig cipolygon hanfodol ar ddulliau pobl-ganolog sy'n gweithio gyda phobl â deilliannau gwella effeithlonrwydd seibr-ddiogelwch ac ymgysylltu â nhw."
Mae Dr Morgan wedi cynnal ymchwil gyda nifer o sefydliadau yn y diwydiant dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn disgrifio ei secondiad fel "cyfle unwaith mewn oes i fod ynghlwm wrth Airbus – un o gewri awyrofod sy'n arwain y byd. Bydd yn cynnal ymchwil arloesol sydd â chymaint o botensial i gael effaith gadarnhaol yn y tymor hir a'r tymor byr ar ymwybyddiaeth, gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymddygiadau o ran seibr-ddiogelwch ymhlith gweithwyr."
Bydd y tîm yn defnyddio ystod eang o dechnegau ymchwil ac yn cynnal astudiaethau i ddatblygu offer, technegau a dulliau sy'n canolbwyntio ar bobl, wedi'u teilwra ar gyfer cryfderau seibr dynol, yn cynnwys hyblygrwydd gwybyddol, hunanymwybyddiaeth, a'r gallu i fod yn hyblyg, er mwyn gwarchod gweithwyr i'r eithaf rhag ymosodiadau seibr posibl.
Caiff y canfyddiadau a'r mentrau eu profi a'u cyflwyno ar draws Airbus drwy gynlluniau hyfforddi ac ymwybyddiaeth cyfredol, a'u rhannu hefyd gyda phartneriaid yn cynnwys prifysgolion cyswllt, yr NCSC a phartneriaid diwydiannol mewn ymgais i sbarduno newid ym meddylfryd y gymuned seibr-ddiogelwch.
Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Gosodwyd Prifysgol Caerdydd yn ddiweddar yn y trydydd safle ymhlith prifysgolion y DU o ran trosi ymchwil yn llwyddiant masnachol"
Mae'r lansiad yn dilyn agor y Ganolfan Arloesedd Seibr, a leolir yng nghyfleuster Airbus yng Nghasnewydd, ym mis Ebrill 2019. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gynnig seibr-ddiogelwch o'r radd flaenaf ar draws Airbus, a mabwysiadu dull amlddisgyblaethol.
Mae cam cyntaf y gwaith Seibr-ddiogelwch sy'n Canolbwyntio ar Bobl wedi'i ariannu'n llawn a chaiff ei gynnal am dair blynedd yn y lle cyntaf.
Bydd y Cyflymydd yn cynnig lleoliadau ar gyfer myfyrwyr Prifysgol cymwys, yn ogystal â chreu cyfleoedd i gydweithio â thimoedd ymchwil a busnesau, gan gynnwys busnesau newydd.