Ewch i’r prif gynnwys

Cyrsiau byrion bywiog a gynhelir ar gyfer myfyrwyr MDA a DPP

31 Ionawr 2020

MDA DPP
MDA and DPP students

Cynhaliwyd cyrsiau byr bywiog ym mis Ionawr ar gyfer y Meistr Gweinyddu Dylunio (MDA) a’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (Rhan 3) (DPP).

Roeddynt yn cynnwys gweithdai a seminarau ar ystod o bynciau cyfredol, gan gynnwys penodidadau proffesiynol, integreiddio tîm dylunio, rheoli dyluniadau (gan gynnwys rôl rheolwr BIM), Cynllun Gwaith RIBA 2020, yn ogystal â chyflwyniadau am Tsieina, Awstralia, Nigeria, Rwanda, UAE, Efrog Newydd a Singapôr (a chafodd llawer ohonynt eu ffrydio’n fyw). Hefyd, cynhaliwyd sesiynau ar astudiaethau achos, technegau cyfweliadau a sgiliau cyflwyno.

Cynhaliwyd y cyrsiau byr, ynghylch modiwlau Ymarfer Proffesiynol, Cyflwyno Dyluniadau, a Chaffael Rhyngwladol gan yr Athro Sarah Lupton a Manos Stellakis.

Diolch yn fawr i’r holl gyfranogwyr am eu seminarau a’u gweithdai ysgogol:

Meddai Nektarios Fotopoulos (cyrfannwr):

‘Am brofiad gwych, llawn darlithoedd cyffrous gan grŵp diddorol iawn o ymarferwyr proffesiynol. Mae wedi bod yn anrhydedd bod yn rhan fach o MDA (Meistr Gweinyddu Dylunio) newydd Prifysgol Caerdydd, y mae ei hansawdd yn rhagorol. Hefyd, mae cyflwyno Rheolaeth BIM a’i drafod â’r holl fyfyrwyr (y daeth rhai ohonynt o ledled y byd i’r cwrs) a’r darlithwyr gwadd eraill wedi bod yn brofiad ysbrydoledig.’

Mae’r MDA a’r DPP bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer sesiwn 2020-2021. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Athro Sarah Lupton drwy ebostio Lupton@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon