Un o’r sefydliadau mwyaf cynhwysol ym Mhrydain
30 Ionawr 2020
Mae Prifysgol Caerdydd wedi’i henwi’n un o’r deg cyflogwr mwyaf cynhwysol ym Mhrydain gan elusen cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a thraws Stonewall, ar ei rhestr o’r 100 Cyflogwr Gorau ar gyfer 2020.
Mae Caerdydd yn parhau i godi ar y rhestr flynyddol, ac mae bellach yn y 10fed safle a'r brifysgol uchaf ar y rhestr.
Cafodd rhwydwaith LGBT+ staff y Brifysgol, Enfys, ei gydnabod fel Rhwydwaith y Flwyddyn.
Dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford: “Mae’r Brifysgol wrth ei bodd ei bod ymhlith y deg uchaf ar restr Stonewall o’r 100 o’r Cyflogwyr Gorau am y tro cyntaf.
“Mae’r cyflawniad hwn yn cynrychioli dros ddegawd o ymrwymiad i gydraddoldeb LGBT+, gan gynnwys datblygu polisïau, cyflwyno materion LGBT+ i’n cwricwla, mwy o gefnogaeth i staff a myfyrwyr traws a gweithio gyda’n gilydd gyda chymuned ein myfyrwyr LGBT+ a’n cynghreiriaid ffantastig i greu amgylchedd lle gall pobl fod eu hunain yn wirioneddol.
Mae rhai o’r camau y mae’r Brifysgol wedi’u cymryd yn cynnwys newid ei pholisïau, codi ymwybyddiaeth o faterion LGBT+ drwy gyfathrebu’n rheolaidd a siaradwyr gwadd, dathlu cyfraniadau pobl LGBT+ drwy wobrwyo cymrodoriaethau er anrhydedd, creu gweithdai i ystyried pa
mor gynhwysol mae ein cwricwla a’n cefnogaeth i bobl LGBT+, plannu baner enfys fyw ar y campws a chynnig cefnogaeth i grŵp LGBT+ BAME cymunedol lawr gwlad.
Mae’r Brifysgol wedi gweithio’n agos gyda’i myfyrwyr LGBT+ a’i Gweithgor LGBT+ hefyd, gan ddod ag aelodau o’r holl wasanaethau sy’n delio â myfyrwyr a Swyddogion LGBT+ Undeb y Myfyrwyr ynghyd.
Meddai Karen Harvey-Cooke, cadeirydd Enfys: “Gall rhwydweithiau fod cymaint o bethau: math unigryw o gefnogaeth, rhwydwaith cymdeithasol, cyfle i gamu ‘mlaen a chymryd rhan, a chyfle i gynghreiriaid ddysgu. Pan mae rhywun yn cysylltu i ddweud eu bod wedi cael cymorth neu eu bod bellach yn gwybod pwy ydynt mewn gwirionedd, mae’n gwneud yr holl waith caled yn werth chweil. Rwy’n falch o fod yn gadeirydd i grŵp o bobl fendigedig sy’n gwneud cyfraniad pwysig i’r Brifysgol hon.”
Mae rhestr o 100 Cyflogwr Gorau Stonewall yn cael ei llunio o geisiadau i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, sy’n adnodd meincnodi pwerus a ddefnyddir gan gyflogwyr i asesu eu cyflawniadau a chynyddu o ran cydraddoldeb LGBT yn y gweithle, yn ogystal â’u gwaith ehangach yn y gymuned ac o ran darparu gwasanaethau.
Rhaid i bob sefydliad ddangos eu harbenigedd mewn 10 maes polisi cyflogaeth ac ymarfer, gan gynnwys grwpiau rhwydweithio, arweinyddiaeth uwch, caffael a pha mor dda maent wedi ymgysylltu â chymunedau LGBT.
Eleni, gwnaeth 503 o gyflogwyr gais i fod ar restr y 100 Gorau, y nifer uchaf erioed. Casglodd Stonewall dros 109,000 o ymatebion dienw gan weithwyr ynghylch eu profiad o ddiwylliant ac amrywiaeth yng ngweithleoedd Prydain.
Dywedodd Sanjay Sood-Smith, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni Gweithle a Chymuned Stonewall: “Mae’n bleser gennym enwi Prifysgol Caerdydd yn un o’r 100 o’r Cyflogwyr gorau eleni. Mae gan yr holl sefydliadau ar y rhestr o’r 100 Cyflogwr Gorau rôl enfawr o ran gwella bywydau pobl LGBT, a dylen nhw fod yn falch iawn o’u gwaith.
“Nid yw’r byd sydd ohoni’n un lle gall pawb fod eu hunain yn y gweithle eto, ac rydym yn gwybod bod dros draean o staff LGBT yng Nghymru (34%) yn cuddio pwy ydynt yn y gwaith. Drwy gymryd camau i wneud eu gweithleoedd yn gefnogol ac yn groesawgar i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws, mae busnesau fel Prifysgol Caerdydd yn dod â ni’n agosach at fyd lle mae pawb yn cael eu derbyn yn ddieithriad.”