Lansio menter newydd i ddatrys problem cynhyrchedd y DU
2 Mawrth 2020
Mae dau o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â rhwydwaith sy’n ceisio hybu cynhyrchedd yn y DU.
Mae’r Athro Alan Felstead a Rhys Davies yn rhan o Ganolfan Deilliannau Cynhyrchedd Ymarfer, Ymgysylltu a Dysgu yn y Gweithle (PrOPEL), prosiect £1.95 miliwn, a gefnogir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae’r fenter dair blynedd, dan arweiniad Prifysgol Ystrad Clyd, yn cynnwys ymchwilwyr o saith sefydliad, ynghyd â Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Mae cynhyrchedd uwch yn gwneud cyflogwyr yn fwy cystadleuol, sy’n cynnig sail i gynyddu cyflogau a refeniw treth y llywodraeth. Ond mae cynhyrchedd yn y DU wedi arafu ers y dirwasgiad, a hwn yw un o’r rhesymau pam mae twf cyflogau wedi bod mor isel dros y degawd diwethaf.
Bydd canolfan newydd ProPEL yn cydlynu ystod o themâu ymchwil – o reoli ac arwain, arloesi, dylunio swyddi, arwain mewn busnesau bach a micro, a gwersi o arferion gwaith ac ymgysylltu â gweithwyr – gyda’r nod o ganfod camau ymarferol i hybu cynhyrchedd mewn busnesau ac yn economi’r DU yn gyffredinol.
Bydd y Ganolfan yn ganolbwynt i ymgysylltu â llunwyr polisïau, busnesau a sefydliadau gweithwyr ar draws y DU, gyda’r nod o lywio penderfyniadau yn y dyfodol gyda’r ymchwil fwyaf blaengar. Yn bwysig, bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar ddarganfod beth sy’n gweithio a chefnogi trosglwyddiad y gwersi hyn i weithgareddau busnes bob dydd.
Ar ben hynny, bydd y CIPD yn cyd-ariannu swydd uwch yn y Ganolfan. Bydd hyn cyn cynnig cyfle i gael arbenigedd gan fusnesau eu hunain ynghylch arferion rheoli ac ymgysylltu â gweithwyr. Ar yr un pryd, bydd gan CIPD rôl hanfodol wrth helpu i drosi’r sail dystiolaeth ac ymchwil ynghylch cynnwys ymarferol a chraff ar gyfer Adnoddau Dynol a gweithwyr proffesiynol sy’n rheoli pobl.
Dywedodd yr Athro Alan Felstead, sy’n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n anodd tanamcangyfrif graddfa’r her economaidd sy’n wynebu’r DU ar hyn o bryd."
Dywedodd y Cyd-Ymchwilydd Rhys Davies, o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd (WISERD): “Yn ôl amrywiaeth o fesurau o gryfder economaidd, mae Cymru’n rhan gymharol dlawd o’r DU o hyd. Mae angen rhoi diwedd ar y diffyg cynhyrchedd sy’n parhau yng Nghymru er mwyn i bobl Cymru fwynhau’r un cyfleoedd mewn bywyd â’r rheiny sy’n byw y tu hwnt iddi. Bydd y prosiect yn ystyried sut gall busnesau yng Nghymru wella eu perfformiad drwy wella ansawdd y gyflogaeth, er mwyn i gyflogwyr a gweithwyr allu elwa ar y manteision sy’n dod gyda gwaith mwy gwerth chweil.”
Mae canolfan PrOPEL yn cael dros £1.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn rhan o Gronfa Blaenoriaethau Strategol Ymchwil ac Arloesedd y DU. Darperir cyllid pellach gan brifysgolion partner.