Graddfa camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc wedi’i datgelu
30 Ionawr 2020
Mae angen cefnogaeth well ar bobl ifanc dan ofal preswyl er mwyn iddynt oresgyn ystod o heriau, yn ôl academyddion Prifysgol Caerdydd.
Mae arolwg o ddisgyblion ysgol rhwng 11 ac 16 oed yn dangos bod gan bobl ifanc dan ofal preswyl y sgôr isaf am les meddyliol, bod dros hanner (56%) wedi cael eu bwlio’n ddiweddar a bod bron tri chwarter (74%) wedi ymladd yn y flwyddyn ddiwethaf. Roedd gan y garfan hon agweddau llai cadarnhaol tuag at yr ysgol hefyd. Mae tystiolaeth yn dangos bod y ffactorau hyn yn gysylltiedig â risg uwch o gamddefnyddio sylweddau.
Yn wir, mae dros draean (36%) o bobl ifanc dan ofal preswyl yn dweud eu bod wedi meddwi ymhen y 30 diwrnod diwethaf, mae ymchwil yn dangos. Mae’r ffigur hwn yn cymharu â dim ond 9% o bobl ifanc nad ydynt o dan ofal. Dywedodd bron traean (31%) o bobl ifanc dan ofal preswyl eu bod wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf, a dim ond 4% o’r rheiny nad ydynt o dan ofal oedd wedi gwneud hyn. Mae chwarter (26%) y bobl ifanc ar leoliadau preswyl yn dweud eu bod yn ysmygu bob wythnos, o gymharu â 3% o’r rheiny sy’n byw gartref.
Meddai’r Athro Simon Murphy, o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Y canfyddiadau mwyaf trawiadol o’r astudiaeth hon yw’r anfanteision y mae pobl ifanc dan ofal preswyl yn eu hwynebu o gymharu â’r lleill yn y system ofal, a bod eu profiadau’n cyferbynnu’n llwyr â’r rheiny sy’n byw y tu allan iddi."
Cafodd data ar gyfer yr astudiaeth ei gasglu gan dros 85,000 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed a atebodd gwestiynau yn rhan o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sef yr arolwg mwyaf o’i fath yn y DU. Ar hyn o bryd, mae 210 o ysgolion yng Nghymru’n rhan o’r rhwydwaith. Cafodd myfyrwyr a gymerodd ran eu dosbarthu i mewn i bedwar categori - y rheiny o dan ofal maeth, o dan ofal preswyl, o dan ofal gan berthnasau – sef gydag aelod arall o’r teulu, neu’r rheiny nad ydynt o dan ofal.
Ychwanegodd yr Athro Murphy: “Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos y dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r broblem hon ymhellach ac ystyried ffyrdd o wella profiad y rheiny dan ofal.”
Ar unrhyw adeg, mae oddeutu 6,000 o bobl ifanc yng Nghymru ‘o dan ofal’ awdurdodau lleol yng Nghymru, gyda 9% o dan ofal preswyl, fel unedau diogel, cartrefi plant, llety annibynnol neu ysgolion preswyl. O 31 Mawrth 2018 ymlaen, o dan ofal maeth (74%) oedd y rhan fwyaf o bobl ifanc oedd ‘o dan ofal’.
Sefydlwyd y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol (SHRN) yn 2013 a dan arweiniad DECIPHer. Mae’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymchwil Canser y DU, a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).