Arddangosfa gelf deithiol yr Atlas Llenyddol yn cyrraedd ei chyrchfan derfynol
27 Ionawr 2020
Mae gwaith celf a gomisiynwyd fel rhan o’r project Atlas Llenyddol - sy’n archwilio daearyddiaeth, hanes a chymunedau Cymru trwy gyfrwng nofelau Saesneg a leolir yn y wlad - yn cael ei arddangos yn y Senedd ac adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd tan Chwefror 17 2020.
Dyma gyrchfan derfynol taith blwyddyn o hyd ar draws Cymru ar gyfer yr arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig a gychwynnodd ym mis Chwefror 2019.
Mae’r arddangosfa yn gasgliad o ddeuddeg o weithiau celf a gomisiynwyd i gynrychioli pob un o’r nofelau Saesneg a ffurfiodd ran o ymchwil wreiddiol prosiect yr Atlas Llenyddol.
Rhoddwyd nofel i bob artist a gofyn iddyn nhw: “chwarae gyda syniadau traddodiadol ynghylch mapio cartograffig ac archwilio’r posibiliadau o gyfathrebu’r berthynas rhwng tudalennau a llefydd, yn ogystal â llyfrau a mapiau, yn weledol”. Dyma’r artistiaid a’r nofelau a roddwyd iddynt.
- John Abell - Revenant gan Tristan Hughes (2008)
- Iwan Bala - Twenty Thousand Saints gan Fflur Dafydd (2008)
- Valerie Coffin Price - The Rebecca Rioter gan Amy Dillwyn (1880)
- Liz Lake - Shifts gan Christopher Meredith (1988)
- Richard Monahan - Aberystwyth Mon Amour gan Malcom Pryce (2009)
- George Sfougaras - The Hiding Place gan Trezza Azzopardi (2000)
- Joni Smith - Mr Vogel gan Lloyd Jones (2004)
- Amy Sterly - Pigeon gan Alys Conran (2016)
- Locus - Sheepshagger gan Niall Griffiths (2002)
- Rhian Thomas - Border Country gan Raymond Williams (1960)
- Seán Vicary - The Owl Service gan Alan Garner (1967)
- Prosiect Myfyriwr Prifysgol Caerdydd - Strike for a Kingdom gan Menna Gallie (1959)
Cynhaliwyd digwyddiad lansio ar gyfer rhan olaf taith yr arddangosfa, wedi ei noddi gan Bethan Sayed AM, ddydd Mercher 15 Ionawr yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth yr Athro Jon Anderson o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r prosiect Atlas Llenyddol gyflwyno’r ymchwil i’r gwesteion. Esboniodd sut mae’r ymchwilwyr wedi creu mapiau digidol arloesol o’r perthynas rhwng gweithiau llenyddiaeth Saesneg o Gymru a’u lleoliadau Cymreig unigryw. Mae’r teclyn yn galluogi defnyddwyr i ddilyn llinyn naratif pob un o’r deuddeg nofel yn ddaearyddol o amgylch Cymru a’r byd, gan archwilio pob lle sydd wedi llunio’r stori a’r cymeriadau.
Roedd yr arlunydd Seán Vicary hefyd yn bresennol i gyflwyno ei ffilm, 'Sitelines', sy’n ymateb i ddaearyddiaeth lenyddol nofel Alan Garner The Owl Service (1966).
Ewch i wefan yr Atlas Llenyddol i weld y gwaith celf a darllen datganiad pob artist.