Ewch i’r prif gynnwys

Dyngarwr Syr Stanley Thomas yn ymweld â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr

27 Ionawr 2020

Sir Stanley Thomas outside CSL
(o’r chwith i’r dde) Christian Parton (Rheolwr y Prosiect, BAM); Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd; Ben Lewis (Cyfarwyddwr Cefnogi a Lles Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd); Sir Stanley Thomas OBE (Anrh 2011); Greg Spencer (Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu); Jackie Yip (BA 2018), Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd; Phil Bailey (Rheolwr Datblygu Busnes, BAM).

Mae’r dyn busnes a’r dyngarwr uchel ei fri o Gymru, Syr Stanley Thomas OBE (Anrh. 2011) wedi ymweld â Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, er mwyn gweld y gwaith adeiladu ar awditoriwm blaenllaw fydd yn cael ei enw.

Mae rhodd £1.1 miliwn i Brifysgol Caerdydd gan Syr Stanley yn ariannu’r ddarlithfa ac iddi 550 o seddi yn y Ganolfan flaenllaw, fydd wrth galon Campws Cathays y Brifysgol ym Mhlas y Parc.

Ar hyn o bryd, mae BAM yn datblygu Canolfan Bywyd y Myfyrwyr mewn partneriaeth ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac mae’n cynnig cartref newydd i amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi myfyrwyr.

Y Ganolfan fydd cartref newydd ein Gwasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr, a bydd yn cynnig ystod eang o gymorth anacademaidd i fyfyrwyr, o gyngor ynghylch gyrfaoedd, cyfleoedd byd-eang a gweithdai sgiliau astudio, i arweiniad ariannol, cefnogaeth gydag anableddau a chwnsela.

Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad pwysig i Gymru ac mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gyfleuster angenrheidiol fydd yn helpu myfyrwyr Caerdydd yn y dyfodol, beth bynnag fo’u cefndir, i ffynnu wrth wneud eu hastudiaethau. Yn ystod fy ymweliad, roeddwn wrth fy modd yn gweld yr awditoriwm yn ymffurfio, ac yn falch o wybod bod y Ganolfan i fod i agor y flwyddyn nesaf.

Sir Stanley Thomas

Bydd yr adeilad yn cynnwys mannau astudio cymdeithasol newydd, ystafelloedd ymgynghori a mannau myfyrio tawel sy’n cyd-fynd ag awditoriwm Syr Stanley Thomas – sy’n gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cefnogi arobryn Caerdydd i fyfyrwyr yn fwy cynhwysfawr, hygyrch a hwylus nag erioed o’r blaen.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am rodd ysbrydoledig a hael Syr Stanley, ac yn hynod falch o’i gefnogaeth barhaus. Bydd y rhodd yn cael effaith drawsnewidiol ar fywydau myfyrwyr y dyfodol, y Brifysgol, ynghyd â Chaerdydd a Chymru o ran hynny. Y ddarlithfa newydd – sydd â’r nifer mwyaf o seddi yn y Brifysgol – fydd ein gofod addysgu mawr a mwyaf blaengar ei dechnoleg.”

“Bydd rhodd Syr Stanley yn helpu i wneud yn siŵr y bydd myfyrwyr rhyngwladol a Phrydeinig Caerdydd o bob cefndir posib yn cael eu cefnogi’n dda o fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth, ac mewn amgylchiadau heriol. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn atgyfnerthu adnoddau Prifysgol Caerdydd o ran cefnogi iechyd meddwl a lles, materion ariannol a gyrfaol ein Myfyrwyr - gan wella ein hamgylchedd dysgu ac addysgu sydd eisoes yn ardderchog.

Dywedodd TJ Rawlinson, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr: “Mae rhodd Syr Stanley a’i ymweliad yn nodi cyfnod trawsnewidiol i Brifysgol Caerdydd. Mae ei gefnogaeth a’i ddyngarwch parhaus yn ein helpu i gynnig yr uwchraddiad mwyaf ar y Campws ers cenhedlaeth, gan gynnig mannau newydd hanfodol lle gall myfyrwyr y dyfodol ffynnu.”

Bydd y Ganolfan o flaen adeilad Undeb y Myfyrwyr ac yn defnyddio gofod heb ei ddefnyddio ger grisiau concrit hen Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi’u dymchwel i baratoi lle i rodfa golofnog eiconig newydd ar hyd Plas y Parc.

Pan fydd yn agor, bydd y Ganolfan yn caniatáu i staff yn y Gwasanaethau Cefnogi a Lles Myfyrwyr weithio mewn ffyrdd newydd a mwy hyblyg. Bydd gan staff rwydd hynt i symud desgiau a chefnogi myfyrwyr o leoliadau o gwmpas y Ganolfan.

Mae disgwyl i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr agor yn haf 2021.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn datblygu’r campws ar hyn o bryd yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar y campws ers cenhedlaeth - buddsoddiad o £600m yn ein dyfodol.