Tarfu ar gynaliadwyedd
24 Ionawr 2020
Teithiau ‘entrepreneuraidd gwyrdd’ cyflenwr ynni adnewyddadwy mwyaf gwyrdd Prydain a’r clwb pêl-droed mwyaf gwyrdd yn y byd oedd ffocws y diweddaraf o gyfres darlithoedd Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd.
Aeth Helen Taylor, aelod o’r Uwch Dim Rheoli yn Ecotricity a chyn Prif Swyddog Gweithredol Clwb pêl-droed Forest Green Rovers (FGR), ati i olrhain hanes y cwmni ynni gwyrdd, a sefydlwyd gan Dale Vince ym 1998.
Eglurodd sut oedd gan Dale weledigaeth ar gyfer Prydain werdd ar ôl ymweld â Gŵyl Glastonbury lle adeiladodd dyfais i wefru ffonau symudol gyda phŵer yr haul.
Gyda’r arian a godwyd o’r prosiect hwn, dysgodd Dale am ynni tyrbinau gwynt gan Enercon yn yr Almaen a daeth a’i wybodaeth a’i arbenigedd yn ôl i’r DU i ddechrau Ecotricity.
Mae’r cwmni yn cyflenwi 200,000 o gartrefi a 16,000 o fusnesau ym Mhrydain gyda thrydan a nwy rhydd rhag ffracio sy’n 100% figan a gwyrdd. Gyda model busnes ‘bills to mills’, maent yn buddsoddi’r holl elw yn ôl i mewn i adeiladu ffynonellau newydd o ynni gwyrdd.
Dysgu, profi, ysbrydoli
Dechreuodd Ecotricity ymwneud â Forest Green Rovers yn 2010, ar adeg lle roedd y clwb yn cael trafferthion ariannol. Ar ôl darparu cymorth ariannol i ddechrau, cynigiodd Dale gymryd mwy o ran yn y clwb fel Cadeirydd.
Ar ôl bod yn gweithio yn Ecotricity am gyfnod byr, daeth Helen yn Brif Swyddog Gweithredol ar glwb pêl-droed. Gan adlewyrchu ar y newid, meddai: “Mae’r holl bethau rydym ni’n credu ynddyn nhw gyda Ecotricity yn anodd iawn eu cyfieithu drwy ochr ynni y busnes yn unig...”
Trawsnewidiad gwyrdd
Un o’r pethau cyntaf iddynt ei wneud oedd cymryd cig coch oddi ar y fwydlen yn y clwb. Ac yntau’n figan ers iddo fod yn 15 oed am resymau lles anifeiliaid, meddyliodd Dale ei fod yn gyfle i wneud pethau’n wahanol. Ac felly y dechreuodd trawsnewidiad gwyrdd clwb pêl-droed FGR.
Yn ddiweddarach, tynnwyd cyw iâr a physgod oddi ar y fwydlen, ac yn sydyn iawn, trawsnewidiodd y clwb i fwydlen figan. Ac mae cefnogwyr nawr yn dweud wrthyn nhw bod rhai o’r dewisiadau hyn yn cael eu gwneud adref hefyd, gyda llawer yn prynu llaeth ceirch yn lle cynnyrch llaeth.
Ar ôl caffael y clwb, fe wnaeth tîm Ecotricity hefyd osod paneli solar ar un o’r stands a phwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio. Bellach, mae pŵer yr haul yn cyfrif am oddeutu 23% o’r ynni a ddefnyddir ar ddiwrnod gêm gyda gweddill yr ynni yn cael ei gymryd ar gyfer cyflenwad Ecotricity.
Rhywbeth arall sy’n hollol unigryw i FGR, ac i fyd y bêl gron yn gyffredinol, yw eu bod yn cyflogi garddwr i sicrhau bod glaswellt y maes chwarae yn figan ac yn gwbl organig. Mae’r rheiny sy’n gofalu am y maes chwarae yn defnyddio atchwanegiadau gwymon, compostau naturiol ac awyru cyson i gynnal y maes, ac mae hynny’n dangos gyda dim ond un gêm yn cael ei gohirio mewn dau dymor.
Mae’r maes chwarae unigryw hyd yn oed wedi’i ddefnyddio i wneud Faith in Nature, sef hylif golchi corff newydd halen Epsom.
Yn fuan ar ôl iddynt gael eu dyrchafu i Gynghrair Pêl-droed Lloegr yn 2017, cafodd EGR eu henwi fel clwb carbon niwtral ardystiedig cyntaf y Cenhedloedd Unedig – a gaiff ei bweru gan ynni adnewyddadwy a’i ardystio gan y Gymdeithas Figan.
Ers hynny, mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth, gyda chynulleidfaoedd o 2,800 ar gyfartaledd ym mhob gêm a nifer sylweddol o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Maent wedi ymrwymo i brosiectau allgymorth cymunedol sy’n gweld 400 o grysau – wedi’u gwneud o 50% bambŵ – yn cael eu rhoi i blant 7-8 oed yn ardal Stroud.
Mae hon yn un o gyfres o fentrau ymgysylltu ar gyfer plant sy’n llysgenhadon i gymryd rhan yn y clwb, dysgu am ddatblygiad cynaliadwy, samplu deiet figan a hyd yn oed gyfrannu at raglen y gêm.
Credoau, ymgysylltu ac ymddygiad
Y math hwn o ddylanwad ar ymddygiad rhanddeiliaid a ddenodd Dr Anthony Samuel, Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd, i estyn allan i'r clwb.
Meddai: “Ar ôl clywed am yr holl waith da roedd FGR yn ei wneud o ran datblygu cynaliadwy ac adeiladu ymwybyddiaeth amgylcheddol o fewn pêl-droed proffesiynol, roeddwn i eisiau pennu a oedd hyn yn cael unrhyw effaith ar gredoau, ymgysylltiad ac ymddygiad eu cefnogwyr ac eraill.”
Ers hynny, mae Dr Samuel wedi sicrhau cyllid sbarduno i ymchwilio i’r newidiadau hyn o fewn fframwaith marchnata cymdeithasol cymunedol.
Mae wedi cynnal pum grŵp ffocws yn cynnwys cefnogwyr pêl-droed a thrigolion Forest Green a Nailsworth a chynhaliodd 60 o gyfweliadau lled-strwythuredig â staff a chymdeithion, cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr a chefnogwyr y clwb, a phreswylwyr a busnesau o’r ardal.
Gan adlewyrchu ar bron i ddwy flynedd a hanner o waith gyda’r clwb, meddai Dr Samuel: “Mae ymrwymiad y clwb i’r agenda cynaliadwyedd yn ennill calonnau a meddyliau...”
“Yn bersonol, maen nhw hefyd wedi fy ngalluogi i gynnwys defnydd cynaliadwy a materion amgylcheddol yn ein cwricwlwm gwerth cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd.
“Rydw i wedi ymweld â’r clwb gyda fy myfyrwyr Strategaeth Marchnata a Busnes ac Entrepreneuriaeth ar sawl achlysur ac maen nhw wedi cael cymaint allan o’r teithiau a chlywed am fentrau’r clwb ac y maen nhw wedi’i gael o’r pêl-droed.”
Prydain fwy gwyrdd
Gan ddirwyn ei chyflwyniad i ben, adlewyrchodd Helen ar amharu ar gynaliadwyedd Ecotricity ac FGR. Meddai: “Os ydych chi’n meddwl am daith fel ein taith ni, mi fuaswn i’n dweud wrthych i fod yn ddewr a mynd ati. Mae ffyrdd o fynd i’r afael â’r materion hyn a does dim rhaid iddyn nhw fod yn gymhleth bob tro.
“Rydyn ni'n cael ein gwahodd i drafodaethau rhyngwladol am chwaraeon a chynaliadwyedd, a dwi’n credu ei fod mewn gwirionedd yn ymwneud â dechrau o'r gwaelod i fyny a gweld beth y gallwch chi ei wneud a beth sy’n bosibl. Mae’n llawer haws na chael rhywun yn dweud wrthych chi.
“Wrth gwrs, mae atebion anodd allan yna hefyd, ond os allwn ni weithio gyda’n gilydd, byddwn ni’n sicrhau Prydain fwy gwyrdd yn y pen draw.
Heb gyrraedd y digwyddiad? Cyfle i’w wylio yn llawn nawr.