Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil newydd yn dangos y potensial ar gyfer gwneud penderfyniadau yn well ym maes gwaith cymdeithasol

21 Ionawr 2020

Adults sat in a circle having a group discussion

Yn ôl prosiect peilot a oedd yn cynnwys bron 300 o weithwyr cymdeithasol, gall rhai dulliau sydd wedi’u sefydlu a ddefnyddir i ragweld yn well mewn meysydd eraill hefyd wneud gwahaniaeth cadarnhaol i weithwyr cymdeithasol.

Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan What Works for Children's Social Care, ar y cyd â Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE) ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd arwyddion o botensial gan ymyriad gwybyddol ar-lein cryno i leihau rhagfarn.

Yn ystod yr astudiaeth, gofynnwyd i weithwyr cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr ddarllen astudiaethau achos byr o atgyfeiriadau go iawn, a rhoi amcangyfrif o’r hyn allai ddigwydd nesaf. Roedd y rhagolygon hyn yn cynnwys tebygolrwydd ymddygiadau penodol gan y rhieni, yn ogystal â chanlyniadau gofal cymdeithasol.

Ar ôl cwblhau dwy astudiaeth achos, neilltuwyd y gweithwyr cymdeithasol ar hap i gymryd rhan yn un o’r tri ymarfer – graddnodi hyder, lleihau rhagfarn wybyddol, a meddylfryd twf ac adborth. Mae ymarferion tebyg mewn astudiaethau blaenorol wedi gwella gallu pobl i ragweld mewn nifer o feysydd yn ôl pob tebyg, gan gynnwys gwleidyddiaeth, economeg a chyllid.

Ar ôl cymryd rhan yn un o’r tri ymarfer, gofynnwyd i’r gweithwyr cymdeithasol i edrych ar ddwy astudiaeth achos pellach. Gwelwyd bod y rhai hynny a gwblhaodd yr ymarfer mewn lleihau rhagfarn wybyddol, wedi gwella cywirdeb o ran rhagweld, gan wella o sgôr o'r 25ain gorau allan o 100 i'r 10fed gorau.

Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai’r ymyriad cost isel hwn sy’n gyflym ac yn hawdd ei gyflwyno helpu gweithwyr cymdeithasol i osgoi rhai o effeithiau negyddol tuedd i gytuno a gwella eu sgiliau gwneud penderfyniadau.

Gwelwyd nad oedd y ddau ymyriad arall a brofwyd, sef graddnodi hyder ac adborth, yn cael effaith ar gywirdeb rhagweld.

Trwy gynnal dadansoddiadau pellach, gwelwyd bod cyfranogwyr iau yn gwneud rhagolygon y mwyaf cywir, gyda’r rhai rhwng 25-34 y mwyaf cywir, ac yna'r rhai 18-24 oed.

Bydd mwy o waith ymchwil yn datblygu’r ymarferion ac yn eu profi mewn sefyllfaoedd maes.

Yn ôl Michael Sanders, Cyfarwyddwr What Works for Children's Social Care: “Er mai megis dechrau yw’r gwaith ymchwil hwn, rydym yn obeithiol y gall y canfyddiadau hyn sbarduno ymchwil newydd i’r penderfyniadau a wneir gan weithwyr cymdeithasol a sut y gallwn helpu i hyfforddi a chefnogi gweithwyr cymdeithasol i wneud y rhagolygon a’r penderfyniadau sy’n rhan fawr o’u swydd.”

Dywedodd Dr David Wilkins, Uwch-ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: “Mae gwneud penderfyniadau da yn hanfodol ac yn un o’r agweddau anoddaf ar fod yn weithiwr cymdeithasol. Gallai hyd yn oed enillion ymylol yn y maes hwn gynnig buddion dwys. Mae llawer i’w wneud o hyd, ond y nod yw helpu gweithwyr cymdeithasol i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin, i leihau’r angen am asesiadau ac ymyriadau ym maes gwaith cymdeithasol yn ddiogel, gan arbed amser a lleihau’r baich ar deuluoedd yn ogystal â gweithwyr.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.