Iâ môr yr Arctig yn methu ‘adfer’
21 Ionawr 2020
Ymchwil newydd yn awgrymu na all iâ môr yr Arctig adfer yn gyflym os mai’r newid yn yr hinsawdd sy’n peri iddo doddi.
Defnyddiodd tîm, oedd yn cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, gregyn morwyn mwyaf, sy’n gallu byw am gannoedd o flynyddoedd a modelau hinsoddol er mwyn darganfod sut mae iâ môr yr Arctig wedi newid dros y 1,000 o flynyddoedd diwethaf.
Darganfyddon nhw fod gorchudd iâ’r môr yn newid dros ddegawdau neu ganrifoedd – felly ni ellir disgwyl i iâ môr sy’n crebachu adfer yn gyflym pe byddai’r newid yn yr hinsawdd yn arafu neu’n gwrth-droi.
Ystyriodd yr astudiaeth a gafodd y newidiadau yn yr iâ i’r gogledd o Wlad yr Iâ eu “gorfodi” (o ganlyniad i ddigwyddiadau fel echdoriadau folcanig ac amrywiadau yn allbwn yr haul) neu a oeddynt yn “ddigymell” (yn rhan o batrwm naturiol).
Canfuwyd mai o leiaf traean o amrywiadau’r gorffennol gafodd eu “gorfodi” – sy’n dangos bod system yr hinsawdd yn “hynod sensitif” i’r fath ysgogiadau, yn ôl y prif awdur, Dr Paul Halloran o Brifysgol Caer-wysg.
“Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu nad amrywiadau naturiol sy’n achosi llawer o agweddau ar ein hinsawdd gyfnewidiol. Yn hytrach, maent yn cael eu “gorfodi” gan ddigwyddiadau penodol,” meddai.
“Mae ein hastudiaeth yn dangos yr effaith fawr all gyrwyr hinsoddol ei chael ar iâ môr yr Arctig, hyd yn oed pan mae’r gyrwyr hynny’n wan, fel yn achos echdoriadau folcanig neu amrywiadau’r haul.
“Heddiw, nid newidiadau folcanig neu solar gwan yw’r gyrrwr hinsoddol, ond gweithgarwch dynol, ac rydym bellach yn gorfodi’r system yn aruthrol.”
Meddai’r Athro Ian Hall, cyd-awdur yr ymchwil, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd: “Mae ein canlyniadau’n dangos y gall modelau hinsoddol efelychu patrymau hirdymor y newidiadau a welir yn iâ’r môr."
Pan mae llawer o iâ môr, mae rhywfaint o hyn yn symud yn raddol tua’r de, a thrwy ryddhau dŵr croyw, gall hyn arafu cylchrediad Gogledd Iwerydd, sydd hefyd yn cael ei alw’n Gylchrediad Dymchwel ar hyd Meridian Iwerydd (AMOC).
Mae AMOC yn dod â dŵr twym o’r trofannau tuag at yr Arctig, felly bydd arafu hyn yn oeri’r rhanbarth, ac yn ei dro, yn galluogi iâ’r môr i dyfu ymhellach.
Felly, gyda llai o iâ, gall AMOC ddod â mwy o ddŵr twym i mewn – a dyma ddolen “adborth positif” lle mae’r newid yn yr hinsawdd yn ysgogi cynhesu pellach a mwy o golledion yn iâ’r môr.
Credir mai’r cregyn morwyn mwyaf yw’r anifail anghytrefol mwyaf hirhoedlog ar y Ddaear, ac mae eu cregyn yn cynhyrchu cylchoedd tyfiant y gellir eu harchwilio i fesur newidiadau’r amgylchedd yn y gorffennol.
Mae’r astudiaeth newydd yn rhan o brosiect sy’n cynnwys y Swyddfa Dywydd a thîm rhyngwladol sy’n gweithio ar efelychiadau model hinsoddol o’r mileniwm diwethaf. Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ariannodd y gwaith.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth newydd yng nghyfnodolyn Scientific Reports.