Gweithio ar draws byd llywodraeth a'r byd academaidd - Mewnwelediadau o Gaerdydd a Llundain
16 Ionawr 2020
Amlygwyd pwysigrwydd mewnbwn academaidd i lunio polisïau'r llywodraeth mewn seminar pwysig yng Nghaerdydd ar 9 Ionawr.
Cydweithiodd yr Athro Jo Hunt a’r Athro Dan Wincott o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd gyda’r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, Prifysgol Lerpwl a’r AHRC/ESRC i ddod â gweision sifil, academyddion ac ymchwilwyr ynghyd ar gyfer y digwyddiad. Roedd y sesiynau’n cynnwys dadansoddiad o brofiad academyddion yn y ‘rheng flaen’ sy’n gweithio yn y llywodraeth neu gyda’r llywodraeth a thrafodaeth ar sut i dynnu cymaint o sylw â phosibl i brosiectau ymchwil.
Dywedodd Dr Gregory Messenger (Prifysgol Lerpwl), sydd ar secondiad i'r Swyddfa Dramor ar hyn o bryd ar gynllun a ariennir gan AHRC/ESRC:
“Fe wnaeth y digwyddiad hwn adael i ni edrych ar yr hyn sy'n gweithio orau i sicrhau perthnasoedd cynhyrchiol a buddiol i'r naill ochr a’r llall ar draws y byd academaidd a llywodraeth. Mae gan academyddion gyfraniad ystyrlon i'w wneud i waith y llywodraeth a chyrff deddfwriaethol, ac mae swyddogion yn derbyn hyn. Yn yr un modd, gall llunwyr polisïau gefnogi ein hymchwil ein hunain mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol. Fe wnaeth y gweithdy hwn ganiatáu i ni ddatblygu sgyrsiau ynghylch gweithio gyda'n gilydd, gan dynnu ar brofiad y rhai oedd yn cymryd rhan i nodi arferion gorau, a meithrin perthnasoedd rhwng ymchwilwyr a swyddogion lle mae pawb yn elwa mewn rhyw ffordd.”
Ychwanegodd yr Athro Dan Wincott, cyfarwyddwr rhaglen ymchwil y Cyngor Ymchwil ac Economaidd Cymdeithasol (ESRC) ar Lywodraethiant yn dilyn Brexit:
“Daw academyddion â safbwyntiau amhrisiadwy a nodedig i brosesau ffurfio polisi. Mae adeiladu perthynas gref gyda swyddogion yn gofyn am ymrwymiad a dyfal barhad, fel mae dod o hyd i ffyrdd addas o gyfathrebu darganfyddiadau ymchwil sylfaenol a chymhwysol i wneuthurwyr polisi. Ar y llaw arall, gall y gwaith yma fod yn hynod o foddhaus, am y ffyrdd y gall fwydo i’r broses ymchwilio. Dylai prifysgolion ystyried sut allan nhw wella eu cefnogaeth i academyddion sydd yn dymuno ymgysylltu â’r broses o ffurfio polisi.”
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn hen law ar ddefnyddio ei hymchwil academaidd i helpu i lunio polisïau a deddfwriaeth ar lefelau llywodraeth Cymru a'r DU, yn enwedig ym maes materion cyfansoddiadol, y maes polisi treth datganoledig sy'n datblygu, a maes cyfiawnder troseddol.