Dathlu hanes a phensaernïaeth Cymru
16 Ionawr 2020
Daw’r hanesion anhygoel y tu ôl i rai o adeiladau Cymru yn fyw mewn cyfres deledu newydd sy’n cael ei chyd-gyflwyno gan un o aelodau staff y Brifysgol.
Sara Huws, sy’n Swyddog Ymgysylltu Dinesig yn nhîm Llyfrgelloedd ac Archifau’r Brifysgol, yw un o’r ddau gyflwynydd ar gyfres newydd Waliau’n Siarad ar S4C.
Mae’r rhaglen yn dathlu hanes a phensaernïaeth Cymru drwy hanesion y bobl fu’n byw yn chwech o adeiladau mwyaf nodedig y wlad.
Mae’r rhain yn cynnwys ffermdy hynafol yng Ngheredigion gyda chysylltiadau ag Oes y Tywysogion: Mynachlog Fawr, a adeiladwyd y drws nesaf i abaty eiconig Ystrad Fflur ger Tregaron.
Meddai Sara: “Yr hyn oedd yn dda am Waliau’n Siarad oedd y cyfle a gefais i edrych o gwmpas adeiladau nad ydynt ar agor i’r cyhoedd fel arfer. Roedd yn gyfle gwych hefyd i ddefnyddio dogfennau o Gasgliadau ac Archifau anhygoel y Brifysgol i ddod â hanes Cymru yn fyw.
“Mae mor bwysig dathlu’r trysorau pensaernïol hyn, ymfalchïo ynddynt a gwneud yn siŵr na fyddwn byth yn anghofio eu hanesion.”
Bydd Waliau’n Siarad yn cael ei darlledu nesaf ar S4C nos Sul 19 Ionawr 2020 am 8pm. Mae’r gyfres ar gael ar Clic, iPlayer ac ar blatfformau eraill.