Y Brifysgol yn croesawu myfyrwyr mwyaf disglair yr UD
14 Ionawr 2020
Rhai o fyfyrwyr ôl-raddedig mwyaf disglair o’r UD wedi canmol y rhaglen ddiwylliannol ddiwrnod o hyd a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae’r 45 o fyfyrwyr yn astudio yn y DU yn rhan o Raglen fyd-eang Fulbright sy’n hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol drwy gyfnewid addysgiadol.
Cynhaliwyd diwrnod cyntaf Fforwm blynyddol Fulbright yn y Brifysgol, lle cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau, gan gynnwys sesiwn ar hanes, diwylliant ac iaith Cymru, yn ogystal â thaith o gwmpas y campws.
Eleni, cynhaliwyd y fforwm gan Gymru Fyd-eang, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Cymru, Llywodraeth Cymru, British Council Cymru a’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch dros Gymru - gyda’r nod o hyrwyddo sector addysg uwch Cymru ar y llwyfan ryngwladol.
Hefyd, ymwelodd y myfyrwyr â’r Senedd, Canolfan y Mileniwm a Stadiwm Principality yn rhan o raglen dri diwrnod a drefnwyd gan Gymru Fyd-eang.
Mae 15 o Ysgolheigion Fulbright, sy’n academyddion o’r UD sy’n ymgymryd ag ymchwil yn y DU yn ymuno â nhw.
Meddai Victoria McCraven, un o fyfyrwyr Fulbright: “Rydw i wedi dysgu llawer iawn am ddiwylliant Cymru ac rwy’n dysgu rhagor am y cysylltiadau rhwng prifysgolion Cymru a’r UD.”
Meddai Sheridan Clement, un arall o fyfyrwyr Fulbright: “Cymru yw un o’r lleoedd prydferthaf yr wyf erioed wedi bod iddo. Roedd yn ddiddorol dysgu am y diwylliant gwleidyddol yng Nghymru a sut mae Cymru yn dilyn ei llwybr ei hun yn wleidyddol.”
Rhaglen Fulbright yw un o’r rhai mwyaf clodwiw o’i math yn y byd, gan weithio ar draws 150 o wledydd.
Mae tua 15,000 o ddinasyddion y DU wedi astudio yn y DU a thros 12,000 o ddinasyddion yr UD yn y DU ar raglenni cyfnewid addysgiadol Fulbright.
Yr Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan yw Comisiynydd Fulbright ac mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Fulbright ers 2014.
Mae hefyd yn cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Fulbright, yn sgîl y cytundeb ar bartneriaeth rhwng y Comisiwn a Chymru Fyd-eang ym mis Mai 2019.
Meddai’r Athro Riordan: “Mae’r Brifysgol yn hen bartner i’r Comisiwn, felly mae’n bleser gennym groesawu Comisiwn Fulbright UD-DU yma, ac anrhydedd yw cynnal diwrnod cyntaf y fforwm.
“Mae’r rhaglen yn annog myfyrwyr Fulbright - sydd ymhlith y rhai mwyaf talentog yn yr UD - i ddatblygu dealltwriaeth ddwysach o ddiwylliannau eraill a’r byd o’u cwmpas nhw.
“Rydym yn rhoi croeso Cymreig cynnes, ac yn eu helpu i werthfawrogi dyfnder diwylliant a hanes Cymru, ynghyd â chyfoeth o bethau eraill sydd gan Gymru i’w cynnig.”