Myfyriwr PhD yn ennill Cystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr
13 Ionawr 2020
Mae’r fyfyrwraig PhD, Lucy McPhee (BMus 2016, MA 2017, PhD 2018 - ), wedi’i dewis fel enillydd y Gystadleuaeth Gyfansoddi i Gynfyfyrwyr 2019.
Mae’r gystadleuaeth, sydd bellach yn ei hail flwyddyn, yn gwahodd holl gynfyfyrwyr a graddedigion yr Ysgol Cerddoriaeth i gyflwyno cyfansoddiad gwreiddiol i’w berfformio gan un o ensembles yr Ysgol. Eleni, gwahoddwyd cyfansoddiadau ar gyfer yr ensemble Offerynnau Chwyth Symffonig.
Mae’r darn buddugol, Point of View, yn seiliedig ar chwedl Gymreig Blodeuwedd o’r Mabinogion. Mae’r cyfansoddiad yn chwaer ddarn i gyfansoddiad arall gan Lucy McPhee, Blodeuwedd, ac mae’n adrodd y stori o safbwynt y cymeriad.
Wrth siarad am y darn, meddai Lucy “Mae stori Blodeuwedd yn adrodd hanes merch sy’n cael ei chreu gan ddau ddewin i fod yn wraig i’r Tywysog, Lleu Llaw Gyffes. A hithau’n anhapus gyda’i ffawd, mae Blodeuwedd yn dechrau caru ar y slei gyda ffrind ei gŵr, Gronw, ac mae’r ddau yn cynllwynio i ladd y Tywysog.
“Ar ôl cael ei daro gan waywffon gan Gronw, mae’r Tywysog Lleu yn troi’n eryr ac yn hedfan i ffwrdd. Daw’r dewiniaid o hyd iddo a tendio arno tan iddo wella unwaith eto cyn hawlio ei diroedd yn ôl gan Blodeuwedd a Gronw. Fel cosb, caiff Blodeuwedd ei dal gan Gwydion y dewin a’i throi yn dylluan.
“Fe wnes i gyfansoddi Blodeuwedd yn wreiddiol ar gyfer Ensemble Berkeley fel rhan o’r cynllun CoDI CHAMBER cyntaf erioed a sefydlwyd gan Dŷ Cerdd. Ar gyfer y darn newydd hwn, roeddwn i eisiau edrych ar y stori o safbwynt Blodeuwedd, gan archwilio cyfnodau yn ei bywyd, o’i chreu, i ddisgyn mewn cariad gyda Gronw, i ladd Lleu ac i gael ei gwthio ar wahân oddi wrth Gronw.”
“Mae fy PhD yn seiliedig ar gynrychioli cymeriadau benywaidd, gan ganolbwyntio ar y cymeriadau o fewn chwedlau Cymru, y Mabinogion, ac edrych ar y tebygrwydd a’r gwahaniaethau i’r cymeriadau benywaidd yn y Beibl. Rydw i hefyd yn edrych ar yr archdeipiau benywaidd traddodiadol a roddir i ferched, a sut mae’r rhain yn perthyn i ffeministiaeth.
“Rydw i ar ben fy nigon bod fy narn wedi’i ddewis fel enillydd y gystadleuaeth, a galla i ddim disgwyl i ddechrau gweithio gyda’r Offerynnau Chwyth Symffonig i ddechrau dod â’r darn yn fyw. Roedd yr ensemble yn rhan enfawr o fy mhrofiad prifysgol, ac mae’n gyffrous dychwelyd yn y capasiti newydd hwn.
Astudiodd Lucy am ei gradd israddedig a’i gradd meistr yn yr Ysgol Cerddoriaeth ac mae hi nawr yn ei hail flwyddyn o’i PhD yn yr ysgol. Mae hi eisoes yn gyfansoddwr medrus, ar ôl cymryd rhan mewn sawl preswylfa a stiwdios cyfansoddwyr gan gynnwys Cynllun Cyfansoddwyr Ifanc Psappha 2017 a Chyfansoddiad Cerddorfa Genedlaethol Cymru Genedlaethol y BBC: Cymru 2018.
Yn ddiweddar mae hi wedi gorffen comisiwn offerynnau taro ar gyfer Kyle Lutes, offerynnwr taro o’r Unol Daleithiau, sy’n dwyn y teitl Kokumthena.
Meddai’r Beirniad Dr Robert Fokkens: “Roedd y beirniaid yn falch iawn o dderbyn cyflwyniadau rhagorol gan ein cyn-fyfyrwyr eleni, ac yn fwy balch fyth o gael enillydd clir yn “Point of View” Lucy McPhee. Nid yn unig mae Lucy yn gynfyfyrwraig sydd â chysylltiadau cryf â’r Offerynnau Chwyth Symffonig, ond mae hefyd yn fyfyrwraig PhD presennol.
“Mae'n arbennig o gyffrous y bydd hi'n gweithio gyda'i chyfoedion a'i chydweithwyr ar y prosiect hwn, gan ddefnyddio ei dealltwriaeth 'fewnol' o'r cyfrwng yn gyffredinol a chryfderau ensemble Prifysgol Caerdydd yn benodol i sicrhau eu bod yn sicrhau’r perfformiad gorau posibl o’i darn.”
Bydd cyfansoddiad buddugol Lucy yn cael ei chwarae gan yr ensemble Offerynnau Chwyth Symffonig mewn cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 26 Mawrth 2020.
Bydd y gystadleuaeth eleni yn gwahodd cyfansoddiadau ar gyfer y Côr Siambr. Bydd y gystadleuaeth yn agor yn hwyrach eleni.