Ymchwilydd o Gaerdydd yn ymuno â gwyddonwyr byd-eang i lunio cynllun gweithredu i adfer pryfed
13 Ionawr 2020
Mae gwyddonydd o Brifysgol Caerdydd wedi ymuno â thros 70 o arbenigwyr eraill o ledled y byd er mwyn llunio cynllun gweithredu er mwyn atal dirywiad dramatig pryfed.
Mae Dr Hefin Jones, o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd, ymhlith yr arbenigwyr sydd wedi cydweithio ar y cynllun i warchod pryfed a’u hadfer.
Mae poblogaethau ac amrywiaeth pryfed o dan bwysau cynyddol, sy’n effeithio ar eu hysglyfaethwyr a pheillwyr hefyd.
“Er bod pryfed yn fach, enfawr yw eu heffaith. Mae nifer y pryfed ar draws y byd yn plymio, ac mae hyn yn fygythiad i natur, gan eu bod wrth wraidd llawer o ecosystemau,” meddai Dr Jones.
“Maent yn ffynhonnell fwyd i lawer o anifeiliaid, gan gynnwys adar, mamaliaid bach a physgod. Os bydd pryfed yn diflannu, bydd hyn yn cael goblygiadau trychinebus ymhellach i fyny’r gadwyn fwyd.
“Yn ogystal â bod yn ffynhonnell hanfodol o fwyd yn y gadwyn fwyd, maent ganddynt hefyd rôl hanfodol wrth gynhyrchu bwyd drwy beillio planhigion. Heb eu cyfraniad gwerthfawr, ni fydd bwyd gennym i’w fwyta.”
Mae ffactorau sy’n deillio o weithgarwch pobl megis colli cynefinoedd, llygredd a’r newid yn yr hinsawdd yn arwain at ddirywiad poblogaethau pryfed ar draws y byd.
Mae’r cynllun gweithredu, a gyhoeddwyd yn Nature Ecology & Evolution, yn galw am gamau brys a hirdymor, gan gynnwys:
- Cwtogi’r defnydd o blaleiddiaid
- Lleihau llygredd golau, dŵr a sŵn
- Adfer amrywiaeth ar dir ffermio, gan gynnwys ailgyflwyno anifeiliaid i fywyd gwyllt a chadwraeth
- Ymchwil newydd i’r ffactorau straen sydd y tu ôl i golli pryfed
- Sefydlu corff rhyngwladol i fonitro effaith y cynllun
Dywedodd y gwyddonwyr mai “atebion diedifar” oedd y rhain, a fydd er lles cymdeithas a bioamrywiaeth.
Meddai Dr Jones, entomolegydd sy’n canolbwyntio ar fioamrywiaeth a’r newid yn yr hinsawdd: “Mae angen i ni weithredu ar frys i achub ein pryfed.
“Gallai methu gweithredu gael goblygiadau trychinebus, nid ar rywogaethau o bryfed yn unig, ond ar ecosystemau cyfan. Mae angen i ni flaenoriaethu pa rywogaethau, ardaloedd a materion sydd angen ein sylw fwyaf, a deall y ffactorau amgylcheddol sydd y tu ôl i golli pryfed.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnig cynllun ar gyfer gwarchod pryfed, fydd yn hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu ein planed.”
Dywedodd y prif awdur, yr Athro Jeff Harvey o Sefydliad Ecoleg yr Iseldiroedd a Vrije Universiteit Amsterdam: “Fel gwyddonwyr, rydym eisiau casglu’r holl wybodaeth sydd ar gael a’i rhoi ar waith ar y cyd â rheolwyr tir, llunwyr polisïau a phawb arall sy’n berthnasol.”