Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn arsyllu gwrthdrawiad ysblennydd rhwng sêr niwtron

9 Ionawr 2020

Artist's rendition of a binary neutron star merger
Dehongliad artist o sêr niwtron deuol yn uno. [Image credit: National Science Foundation/LIGO/Sonoma State University/A. Simonnet.]

Mae’r gwrthdrawiad ysblennydd rhwng dwy seren niwtron dros 500 miliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd o’r Ddaear wedi’i ganfod drwy donnau disgyrchol.

Gwnaeth y sêr niwtron, sef gweddillion sêr ar ddarfod sy’n mynd drwy ffrwydradau catastroffig wrth iddynt chwalu ar derfyn eu hoesau, gyfuno’n un corff anarferol o fawr oedd tua 3.4 gwaith mwy ei fàs na’n haul ni, yn ôl y tîm.

Cafodd y darganfyddiad ei wneud gan grŵp mawr o wyddonwyr rhyngwladol sy’n gweithio i Gydweithrediad Gwyddonol LIGO a Chydweithrediad Virgo.

Mae Sefydliad Archwilio Disgyrchiant (GEI) ym Mhrifysgol Caerdydd yn aelodau allweddol o LIGO ac wedi gwneud cyfraniadau pwysig at ganfod tonnau disgyrchol hyd yma.

Dr Vivien Raymond, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, oedd cyd-arweinydd y tîm a bennodd briodweddau’r cyrff oedd yn cyfuno yn y canfyddiad diweddaraf hwn.

Roedd y ffynhonnell newydd hon o donnau disgyrchol yn gryn dipyn o syndod. Nid yw’n cyd-fynd yn union â’r hyn yr oeddem yn ei ddisgwyl, ac mae’n awgrymu bod posibilrwydd o ddosbarth annisgwyl o drwm o sêr niwtron yn ein bydysawd, neu dyllau duon syfrdanol o fach efallai. Mae astroffiseg tonnau disgyrchol yn ein galluogi i weld gwedd newydd ar y Bydysawd.

Dr Vivien Raymond Reader
Gravity Exploration Institute

Canfuwyd cyfuniad y sêr niwtron am y tro cyntaf ar 25 Ebrill 2019 â chanfodydd yn Livingston, Louisiana, a dyma’r eildro y mae’r fath ddigwyddiad wedi’i weld drwy ddefnyddio tonnau disgyrchol.

Sêr niwtron yw’r sêr lleiaf a dwysaf yr ydym yn gwybod amdanynt, ac maent yn cael eu ffurfio pan mae sêr enfawr yn ffrwydro mewn uwchnofâu. Mae’r cyrff hyn mor ddwys fel y byddai gan lond llwy de o ddeunydd seren niwtron fàs o tua biliwn o dunelli.

Wrth i'r ddwy seren niwtron agosáu at ei gilydd, roedden nhw'n ymestyn ac yn gwyrdroi gofod-amser gan ryddhau egni ar ffurf tonnau disgyrchol pwerus - crychau bach iawn mewn gofod-amser - cyn chwalu i mewn i'w gilydd.

Fe wnaeth ymchwil a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd osod y sylfeini ar gyfer canfod tonnau disgyrchol, drwy ddatblygu algorithmau a meddalwedd newydd sydd bellach wedi dod yn declynnau safonol ar gyfer synhwyro'r signalau hyn, sy'n anodd eu canfod.

Mae’r canfyddiadau newydd wedi’u cyhoeddi mewn briffiad i’r wasg yn Honolulu, Hawaii ac wedi’u cyflwyno i’r cyfnodolyn The Astrophysical Journal Letters.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.