Gwleddoedd mawr ym mhrifddinas hynafol Ulster yn arfer denu tyrfaoedd o bob rhan o Iwerddon Oes yr Haearn, yn ôl tystiolaeth newydd
24 Rhagfyr 2019
Daw’r ymchwil i’r casgliad y byddai pobl yn symud anifeiliaid dros bellteroedd maith ar gyfer cynulliadau torfol yn un o safleoedd archaeolegol mwyaf eiconig Iwerddon.
Dr Richard Madgwick o Brifysgol Caerdydd arweiniodd yr astudiaeth, a ddadansoddodd esgyrn 35 o anifeiliaid a ddatgloddiwyd o Gaer Navan, prifddinas chwedlonol Ulster. Fe wnaeth ymchwilwyr o Brifysgol Queen’s, Belfast, Prifysgol Goffa Newfoundland ac Arolwg Daearegol Prydain gymryd rhan yn yr ymchwil.
Mae’r safle wedi’i hen ystyried yn ganolfan ar gyfer cynulliadau defodol, gan fod safleoedd cloddio wedi datgelu adeilad 40m ei ddiamedr, a chreuan epa Barbari, o gyn belled i ffwrdd ag Iberia siŵr o fod. Mae’r canlyniadau’n awgrymu i’r moch, y gwartheg a’r defaid gael eu symud o bob rhan o Iwerddon, ar ôl cael eu magu cyn belled i ffwrdd â Galway, Donegal, Down, Tyrone ac Antrim.
Mae’r dystiolaeth yn awgrymu i rai anifeiliaid ddod o dros 100 o filltiroedd i ffwrdd.
Dywedodd Dr Madgwick, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd: “Mae ein canlyniadau’n cynnig tystiolaeth glir bod cymunedau yn Iwerddon Oes yr Haearn yn symudol iawn a bod da byw yn arfer cael eu symud ar draws pellteroedd hwy nag yr oedd gwyddonwyr yn ei gredu.
“Mae’r gyfran uchel o weddillion moch a ddarganfuwyd yma’n brin iawn ar gyfer y cyfnod hwn. Mae hyn yn awgrymu bod Caer Navan yn ganolfan wledda, gan fod moch yn anifeiliaid sy’n gweddu i wleddoedd, ac yn ôl llenyddiaeth Wyddeleg gynnar, cig moch oedd yr hoff gig ar gyfer gwledda.
“Mae’n glir bod gan Gaer Navan ddalgylch helaeth, a bod dylanwad y safle’n arfer bod yn bellgyrhaeddol.”
Defnyddiodd ymchwilwyr ddadansoddiad amlisotop ar y samplau o enamel dannedd er mwyn datgelu gwreiddiau pob anifail. Mae cyfansoddiadau cemegol i fwyd a dŵr sy’n gysylltiedig â’r ardaloedd daearyddol y maent yn deillio ohonynt. Pan mae anifeiliaid yn bwyta ac yn yfed, mae’r signalau cemegol hyn yn cael eu storio yn eu dannedd, sy’n galluogi gwyddonwyr i olrhain y lleoliad lle cawson nhw eu magu.
Meddai cyd-awdur yr ymchwil, Dr Finbar McCormick, o Brifysgol Queen’s, Belfast: “Heb weddillion dynol, mae’r dadansoddiad amlisotop o’r anifeiliaid a ddarganfuwyd yng Nghaer Navan yn rhoi’r darlun gorau o symudiadau pobl ar yr adeg honno.
“Roedd gwledda, sy’n gysylltiedig ag aberthu bron bob tro, yn angenrheidiol i gymdeithasau cynnar, lle roedd aberthu nifer mawr o anifeiliaid dof yn creu angen i fwyta llawer o gig ymhen cyfnod byr.”
Yn gynharach eleni, datgelodd ymchwil Dr Madgwick i 131 o foch a ddarganfuwyd mewn safleoedd agos i Gôr y Cewri, i anifeiliaid ddod o gyn belled i ffwrdd â’r Alban, a nifer o leoliadau eraill ar draws Gwledydd Prydain. Cyn hyn, hen enigmâu i gynhanes Prydain oedd tarddiadau’r bobl fyddai’n ymweld â’r ardal hon a graddau symudiadau’r poblogaethau bryd hynny.
Ychwanegodd Dr Madgwick: “Byddai symud anifeiliaid ar draws y wlad wedi gofyn am gryn dipyn o amser ac ymdrech, felly mae ein darganfyddiadau’n amlygu’r rôl bwysig yr oeddynt yn ei chwarae yn y gymdeithas. Mae’n glir bod bwyd yn rhan ganolog i drafodion a thraddodiadau pobl.”
Mae Feasting and Mobility in Iron Age Ireland: Multi-isotope analysis reveals the vast catchment of Navan Fort, Ulster wedi’i gyhoeddi yng nghyfnodolyn Scientific Reports ac mae ar gael i’w weld yma.