Cymru Iachach
24 Hydref 2019
Y weledigaeth ar gyfer Cymru Iachach oedd ffocws y Sesiwn Hysbysu Brecwast, a gynhaliwyd ddydd Iau 24 Hydref 2019, o flaen torf yn Ystafell Addysg Weithredol Ysgol Busnes Caerdydd.
Cychwynnodd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, y trafodaethau trwy roi peth o’r cefndir i’w gyflwyniad ar gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Eglurodd fod y GIG wedi’i wreiddio’n ddwfn yng nghymdeithas a diwylliant Cymru, ar ôl cael ei ysbrydoli gan Aneurin Bevan dros 70 o flynyddoedd yn ôl. Ond pwysleisiodd hefyd fod rhaid i’r gwasanaeth barhau i esblygu er mwyn ymateb i anghenion pobl Cymru.
Ffurfio’r dyfodol
Mae Cymru wedi bod yn awyddus i symud i ffwrdd oddi wrth ddull comisiynu neu farchnad a fabwysiadwyd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, gan roi blaenoriaeth i bobl, anghenion, ansawdd a chanlyniadau wrth geisio cyflawni newid.
Wedi’i sbarduno gan ‘Adolygiad Seneddol’ a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn argymell gweithredu i wella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ar draws Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb: Cymru Iachach: Ein cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ym mis Mehefin 2018.
Mae’r ddogfen yn amlinellu ffordd ymlaen er mwyn i’r GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol weithio i ddatblygu a chefnogi gwasanaethau di-fwlch yng Nghymru ar draws 6 cholofn:
- Bywydau hwy, iachach a hapusach
- Un system iechyd a gofal cymdeithasol
- Canlyniadau iechyd cyfartal i bawb
- Cyflwyno gofal yn nes adref
- Defnyddio ysbytai dim ond pan fydd angen
- Cyfleoedd technolegol.
Ond pwysleisiodd Mr Dean: “Nid mater o ysgrifennu dogfennau yw cynllunio; mae’n fater o lunio’r dyfodol.”
Daeth a’i gyflwyniad i ben trwy amlinellu pwysigrwydd creu partneriaeth rhwng y GIG a chymunedau Cymru, sefydliadau a phartion eraill â diddordeb yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.
Cyfres unigryw o ddeddfwriaeth
Aeth Samia Saeed-Edmonds, Cyfarwyddwr Rhaglen Gynllunio’r GIG yn Llywodraeth Cymru, ymlaen â’r cyflwyniad ar ôl Mr Dean trwy gyfeirio ffocws y sesiwn hysbysu at gynllunio a gweithredu Cymru Iachach.
Rhoddodd ei chyflwyniad gynllunio yng ngwasanaeth sector cyhoeddus Cymru yn ei gyd-destun ers datganoli yn 1999.
Ymhlith y rhain mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a Deddf Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn y cyd-destun hwn mae dyletswydd statudol ar sefydliadau i roi cynlluniau integredig tymor canolig ar waith, sy’n gallu cyflawni canlyniadau, ansawdd, gwelliant a thrawsffurfio.
Roedd cyflwyniad Mrs Saeed-Edmonds yn cwmpasu elfennau ymarferol cynllunio integredig penodol i’r GIG yng Nghymru, a bu’n rhannu canfyddiadau Cynllun Integredig Cenedlaethol Tymor Canolig 2019-2022 ar gyfer GIG Cymru, gan ganolbwyntio ar sut mae’n cyflawni blaenoriaethau gweinidogol.
Wrth edrych i’r dyfodol a gweithredu Cymru Iachach mewn cydweithrediad â busnes, academia a’r trydydd sector, daeth Samia Saeed-Edmonds â’i chyflwyniad i ben, gyda’r sylw bod: “Cynllunio yn fwy na chynllun. Mae’n galw am berthnasoedd ac ymddiriedaeth, offer a thechnegau, strwythur a phroses - ar bob lefel.
“Mae’n fater o’r daith yn ogystal â’r cyrchfan.”
Roedd y sesiwn hysbysu yn dilyn lansio diploma ôl-raddedig newydd mewn cynllunio gofal iechyd ym mis Hydref 2019.
Wrth ddilyn y diploma bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am gyfeiriad y GIG yng Nghymru yn y dyfodol yn derbyn hyfforddiant academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rhwydwaith yw'r gyfres Sesiynau Hysbysu Brecwast Addysg Weithredol sy'n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil diweddaraf a datblygiadau allweddol gan bartneriaid diwydiannol.
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, edrychwch ar ein ffrwd fyw o’r digwyddiad.
Cynhaliwyd y sesiwn hysbysu nesaf, Beth sydd mor arbennig am Dde Cymru?, ar 17 Rhagfyr 2019, pryd bu Ken Poole o Gyngor Caerdydd, ar y cyd â Heather Meyers o Siambr Fasnach De Cymru a Clare Taylor o Bruton Knowles, yn ystyried pam dylai busnesau fuddsoddi a thyfu yn rhanbarth De Cymru.