Prifysgol Caerdydd i gael cyfran o £18.5m o gyllid i hybu'r biowyddorau
6 Ionawr 2020
Mae Prifysgol Caerdydd am gael cyfran o £18.5m o gyllid ar gyfer hyfforddi ymchwil ôl-raddedig yn y biowyddorau.
Mae'r Brifysgol wedi sicrhau cyllid gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC) - rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU - ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).
Bydd y bartneriaeth yn cynnig ysgoloriaeth PhD pedair blynedd wedi'i hariannu'n llawn a rhaglen hyfforddi mewn tri maes, gan gynnwys biowyddoniaeth ffiniol (sy'n ymchwil flaengar, arloesol a chreadigol), bwyd ac amaethyddiaeth gynaliadwy, a biowyddoniaeth iechyd.
Gan ddechrau blwyddyn nesaf, bydd pum grŵp o fyfyrwyr yn cael hyfforddiant rhyngddisgyblaethol mewn ystadegau, biowybodeg, codio, dylunio arbrofol, arloesedd a deall effaith ymchwil.
Bydd myfyrwyr hefyd yn gwneud lleoliad Interniaeth Broffesiynol ar gyfer Myfyrwyr PhD (PIPS) tri mis i ddatblygu eu sgiliau ymhellach ac edrych ar gyfeiriadau gyrfaoedd posibl yn y dyfodol.
Yn ddiweddar, ehangodd y bartneriaeth, a gaiff ei harwain gan Brifysgol Bryste ar y cyd â Phrifysgolion Caerfaddon, Caerdydd a Chaerwysg (Cynghrair GW4), ochr yn ochr â Rothamsted Research, i gynnwys chwe phartner cyswllt a fydd yn rhoi mynediad i arbenigedd a chyfleusterau ar draws de-orllewin Lloegr a Chymru. Mae'r rhain yn cwmpasu Cymdeithas Bioleg y Môr (MBA), Labordy Morol Plymouth (PML), Prifysgol Abertawe, SetSquared Bryste, UCB Pharma a Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE).
Dywedodd arweinydd DTP Caerdydd, yr Athro Rob Honey: "Rydym wrth ein bodd bod ein cais ar gyfer BBSRC DTP wedi'i ariannu.
"Mae'n adeiladu ar lwyddiant ein BBSRC DTP blaenorol, SWBio, sydd wedi annog cydweithio ar draws prif sefydliadau GW4 a Rothamsted Research."
Dywedodd yr Athro Leo Brady, Cyfarwyddwr SWBio DTP ac Athro Biocemeg ym Mhrifysgol Bryste: "Mae hyn yn newyddion gwych i fyfyrwyr y dyfodol sydd eisiau gweithio ar flaen y gad o ran bioleg a biodechnoleg a hyfforddi yn yr amgylchedd ymchwil o'r radd flaenaf a gynigir yn ne-orllewin Lloegr a Chymru. Mae hefyd yn bluen yn het yr adrannau biowyddoniaeth sy'n arwain y sector o fewn ein sefydliadau."
Cyhoeddwyd y cyllid o £170m ym mis Hydref gan y Prif Weinidog, Boris Johnson.
Mae BBCSRC yn rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yr asiantaeth ariannu cenedlaethol sy'n gweithio gyda phrifysgolion, sefydliadau ymchwil, busnesau, elusennau a'r llywodraeth i fuddsoddi mewn gwyddoniaeth ac ymchwil yn y DU.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am BBSRC SWBio DTP ac ysgoloriaethau drwy fynd i Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Biowyddorau y De-orllewin.