Yr Academi Gwyddor Data’n cynnal digwyddiad ymgysylltu â diwydiant
19 Rhagfyr 2019
Cafodd sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector o ledled de Cymru eu croesawu i ddigwyddiad diwydiannol yn yr Academi Gwyddor Data’n ddiweddar.
Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau fel IBM, Confused.com, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Dŵr Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gallu clywed am fenter strategol newydd Prifysgol Caerdydd sy’n bwriadu meithrin graddedigion sgilgar iawn ar draws ystod o raddau Meistr sy’n ymwneud â data.
Dan arweiniad yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg, mae cynigion cychwynnol yr Academi Gwyddor Data (DSA) yn cynnwys graddau MSc mewn Gwyddor Data a Dadansoddeg, Seibrddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial.
Meddai Dr Padraig Corcoran, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi: “Roeddem wrth ein boddau’n croesawu cynifer o westeion o ystod amrywiol o gwmnïau i’n digwyddiad cyntaf ar gyfer ymgysylltu â byd diwydiant.
“Cynigiodd y cyfle i amlygu’r amryw ffyrdd y mae busnesau’n gallu ymgysylltu â’r Academi a’i myfyrwyr, gan ei bod hi’n bwysig bod ein cyrsiau dynamig yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth agos â diwydiant.
“Rydym eisiau i’n cyflogwyr fod wrth galon yr Academi er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod gan ein graddedigion y sgiliau perthnasol a dymunol erbyn graddio.”
Meddai Peter Fullerton, Cyfarwyddwr Dirprwyol, Cynllunio ac Adnoddau i Gampws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Roedd nifer y partneriaid diwydiannol yn y digwyddiad hwn yn syfrdanol. Rhoddodd gyfle ardderchog i rannu dealltwriaeth o’r Academi newydd, gosod partneriaethau a gweld yr amgylchedd dysgu bendigedig y mae Ystafell Turing yn ei gynnig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Academi i adeiladu ar ein partneriaeth gref.”
Os oedd eich cwmni’n methu dod i’r digwyddiad ond yn ymddiddori mewn cymryd rhan yng ngwaith yr Academi, ebostiwch DSA@caerdydd.ac.uk