Gwyddonwyr yn datgelu coedwig hynaf y byd
19 Rhagfyr 2019
Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i adfeilion coedwig ffosil hynaf y byd mewn chwarel tywodfaen yn Cairo, Efrog Newydd.
Y gred yw bod y rhwydwaith helaeth o goed, a fyddai wedi lledaenu o Efrog Newydd yr holl ffordd i Pennsylvania a thu hwnt, tua 386 miliwn o flynyddoedd oed.
Mae hyn yn gwneud coedwig Cairo tua 2 neu 3 miliwn o flynyddoedd yn hŷn na'r goedwig a oedd gynt yn cael ei hystyried yr hynaf sef Gilboa, hefyd yn Nhalaith Efrog Newydd a thua 40km i ffwrdd o safle Cairo.
Mae'r canfyddiadau newydd, a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn Current Biology, wedi taflu goleuni newydd ar esblygiad coed a'r rôl drawsnewidiol a chwaraewyd ganddynt yn ffurfio’r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Mae tîm dan arweinyddiaeth gwyddonwyr ym Mhrifysgol Binghamton, Amgueddfa Talaith Efrog Newydd a Phrifysgol Caerdydd wedi mapio dros 3,000 metr sgwâr o'r goedwig yn y chwarel segur ar odre Mynyddoedd Catskill yn Hudson Valley.
Dangosodd eu hymchwiliadau fod y goedwig yn gartref i o leiaf dau fath o goed: cladoxylopsids, planhigion cyntefig tebyg i goed rhedyn, heb ddail gwyrdd fflat, a oedd hefyd yn tyfu mewn niferoedd helaeth yn Gilboa; ac Archaeopteris, a oedd â bongorff pren tebyg i goniffer a boncyffion tebyg i ffrond â dail gwyrdd fflat.
Datgelwyd un enghraifft o drydydd math o goeden hefyd, a barhaodd yn anhysbys ond a allai fod wedi bod yn lycopod.
Roedd yr holl goed hyn yn atgynhyrchu gan ddefnyddio sborau yn hytrach na hadau.
Gwnaeth y tîm hefyd gofnodi rhwydwaith eang 'anhygoel' o wreiddiau a oedd dros wyth metr o hyd mewn rhai mannau, a oedd yn perthyn i'r coed Archaeopteris.
Y gwreiddiau pren hirhoedlog hyn, gyda sawl lefel o wreiddiau canghennog a gwreiddiau bwydo bach, byrhoedlog perpendicwlar, a drawsnewidiodd rhwydweithiau planhigion a phridd ac a oedd felly'n hanfodol i gyd-esblygiad fforestydd a'r amgylchedd', yn ôl yr ymchwilwyr.
Tan yr adeg hon, dim ond gwreiddiau fel rhuban â gwreiddiau di-gainc oedd gan cladoxlopsis a oedd angen eu disodli drwy'r amser wrth i'r planhigyn uwchben y tir dyfu.
Maent yn credu y cafodd y goedwig ei chwalu gan lifogydd yn y diwedd, a hynny o ganlyniad i bresenoldeb nifer o ffosiliau pysgod a oedd hefyd yn weladwy ar arwyneb y chwarel.
"Roedd yn syndod gweld planhigion a oedd yn cael eu hystyried yn y gorffennol i gael dewisiadau cynefin annibynnol ar ei gilydd sy'n tyfu gyda'i gilydd ar ddelta hynafol Catskill", dywedodd cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Chris Berry, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr Prifysgol Caerdydd.
"Byddai hyn wedi edrych fel coedwig gweddol agored gyda choed maint bach i ganolig sy'n edrych yn gonifferaidd, gyda phlanhigion tebyg i goed-rhedyn unigol ac mewn clwstwr o faint llai o bosibl yn tyfu rhyngddynt."
Yn ôl y tîm ymchwil, mae coedwig Cairo yn hŷn na'r un yn Gilboa gan fod y ffosilau yn is o ran trefn y creigiau sy'n bodoli ym mynyddoedd Catskill.
"Er mwyn deall sut y dechreuodd coed dynnu carbon deuocsid i lawr o'r amgylchedd, mae angen i ni ddeall yr ecoleg a'r cynefinoedd o'r fforestydd cynharaf, a'u systemau gwreiddio", eglurodd Dr Berry.
"Mae'r canfyddiadau anhygoel hyn wedi ein galluogi i symud i ffwrdd o gyffredinolrwydd pwysigrwydd planhigion mawr yn tyfu mewn coedwigoedd, i'r manylion o ran pa blanhigion, yma mha gynefinoedd, ym mha fathau o ecoleg a oedd yn gyrru'r prosesau o newid rhyngwladol. Rydym yn llythrennol wedi gallu tyllu i'r pridd ffosil rhwng y coed ac rydym bellach yn gallu ymchwilio i newidiadau geocemegol i'r pridd gyda'n cydweithwyr ym Mhrifysgol Sheffield.
"Rydym ni wir yn dechrau dod i ddeall y broses lle cafodd y Ddaear ei thrawsffurfio’n blaned goediog."