Cydnabyddiaeth yn Tsieina ar gyfer yr Athro Emeritws Roger Falconer
19 Rhagfyr 2019
Cafodd yr Athro Roger Falconer o Ysgol Peirianneg Caerdydd, sydd bellach yn Athro Emeritws Peirianneg Dŵr (ers mis Hydref 2018) a Chyfarwyddwr Sefydlol y Ganolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol, ei ethol yn Aelod Tramor o Academi Peirianneg Tsieina (CAE) ym mis Tachwedd, yn yr etholiad a gynhelir ymhlith holl aelodau CAE bob dwy flynedd.
Cafodd Roger wybod gan Lywydd CAE ei fod wedi'i ethol i'r Academi, i gydnabod ei 'gyfraniadau nodedig i beirianneg hydrolig a hyrwyddo rhaglenni cyfnewid rhwng Tsieina a'r DU, a chydweithrediadau yn y maes'. Aelodaeth o'r CAE yw'r teitl academaidd pennaf ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg peirianneg yn Tsieina ac mae'n anrhydedd gydol oes, a dim ond aelodau presennol y CAE sydd â'r hawl i ethol. Mae aelodau tramor yn ddinasyddion nad ydynt o Tsieina sy'n beirianwyr nodedig ac yn cael eu cydnabod am eu cyflawniadau.
Dechreuodd Roger gydweithio â Tsieina yn y lle cyntaf drwy Brifysgol Tongji ym 1981, lle mae wedi gweithio ar fformwleiddiadau dylunio ar gyfer harbwrs a marinas i sicrhau’r ansawdd dŵr uchaf posibl. Ers y dyddiad hwnnw mae wedi parhau i gydweithio â nifer o'r prif brifysgolion a sefydliadau Llywodraethol yn Tsieina. Ym Mhrifysgol Tsinghua bu'n cydweithio ar ddatblygu offer meddalwedd CONTANT ar gyfer dylunio tanciau diheintio cyflenwadau dŵr, ac ym Mhrifysgol Wuhan ar ddatblygu fformwleiddiadau newydd ar gyfer sefydlogrwydd pobl a moduron mewn llifogydd. Bu'n gweithio gyda Phrifysgol Tianjin a'r Llywodraeth Drefol ar fodelu Bai a Môr Bohai fel system, gyda’r nod o wrthbwyso datblygiad economaidd y bae ar gyfer mwy o longau, gan effeithio i'r graddau lleiaf posibl ar yr amgylchedd arfordirol.
At hynny, mae Roger wedi cyhoeddi'n eang ar y cyd ag awduron o Tsieina (mewn 116 o'r 2016 o gyfnodolion hyd yn hyn) ac mae wedi'i benodi'n Athro Anrhydeddus mewn nifer o brifysgolion yn Tsieina, gan gynnwys Tongji, Tianjin, Sichuan a Sefydliad Ymchwil Dŵr ac Ymchwil Hydro-bŵer Tsieina.