Myfyrwyr yn cynnig cymorth cyfreithiol hanfodol i'r rheiny mewn angen
19 Rhagfyr 2019
Mae myfyrwyr ac academyddion y Gyfraith wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith yn brwydro yn erbyn anghyfiawnderau sy’n effeithio ar aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.
Cafodd Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Prifysgol Caerdydd wobr am 'Gyfraniad Gorau gan Glinig Pro Bono' yng ngwobrau blynyddol Pro Bono LawWorks, ac fe'i chyflwynwyd gan Lywydd y Goruchaf Lys, y Farwnes Hale.
Mae hyd at 200 o fyfyrwyr y flwyddyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, fel rhaglenni sgiliau cyfreithiol, ac ar gyfer clinig pro bono'r Ysgol, sy'n cynnig cymorth cyfreithiol ac ymchwiliadau ar gyfer y rheiny na allant fforddio talu costau cyfreithiol.
Meddai’r Athro Julie Price, Pennaeth Pro Bono: "Mae'r dyfarniad hwn yn cydnabod ymdrechion anferth myfyrwyr y gorffennol a'r presennol, yn ogystal â chyd-academyddion a phobl sy'n gweithio yn y proffesiwn cyfreithiol a thu-hwnt, sydd wedi ein helpu i feddu ar hanes trawiadol. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi – heb y partneriaethau hynny a chefnogaeth ehangach, ni fyddai ein gwaith yn bosibl.
"Mae myfyrwyr sydd ynghlwm wrth y cynlluniau hyn yn ennill profiad amhrisiadwy, a hynny'n ei dro'n cael effaith anferth ar fywydau pobl. Ers i ni ddechrau arni 15 mlynedd yn ôl, rydym yn amcangyfrif bod myfyrwyr wedi cyfrannu tua 240,000 o oriau, ac mae ymarferwyr cynorthwyol ac arbenigwyr eraill wedi rhoi hyd at 10,000 o oriau ar ffurf gwaith cyfreithiol ac arbenigol arall.
"Er nad ydyw – ac na ddylai fod – yn gallu cymryd lle system gyfreithiol sydd wedi'i hariannu'n gywir, mae gwaith o'r fath yn hanfodol."
Portffolio pro bono helaeth
Gan ddechrau â dalen wag yn 2005, mae’r wedi meithrin y broses o greu portffolio pro bono helaeth, sydd bellach yn cynnwys pum cynllun mewnol ac 13 o gynlluniau partneriaeth. Maent yn cwmpasu anghenion cymdeithasol cenedlaethol a lleol fel ei gilydd o fewn meysydd cynghori cyfiawnder cymdeithasol a masnachol, yn ogystal ag un cynllun byd-eang.
Ei menter fwyaf uchel ei phroffil yw’r Prosiect Dieuogrwydd sy'n ymchwilio i gamweddau cyfiawnder posibl, a dyma'r unig brosiect dieuogrwydd ym mhrifysgolion y DU i fod wedi gwrthdroi achos ar ôl atgyfeiriad gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i'r Llys Apêl.
Yn 2014, buont yn llwyddiannus wrth helpu i wrthdroi euogfarn Dwaine George o lofruddiaeth, ar ôl iddo dreulio 12 blynedd yn y carchar. Y llynedd, gwnaethant ennill eu hail achos pan gafodd euogfarn Gareth Jones, wnaeth dreulio tair blynedd a hanner yn y carchar am ymosodiad rhywiol difrifol, ei diddymu.
Mae Sarah Magill, cyn-arweinydd tîm y Prosiect Dieuogrwydd fu'n gweithio ar achos Dwaine George, bellach yn fargyfreithiwr troseddol. Meddai: "Roedd gweld effaith ddiriaethol y gyfraith ar waith wrth i mi astudio wedi fy nghadw’n frwdfrydig ynghylch cyfraith trosedd, ac wedi cynyddu sgiliau y
tynnwyd arnynt yn rheolaidd, yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn yrfa ddymunol a gwobrwyol fel Bargyfreithiwr Trosedd hyd yn hyn."
Un o gynlluniau partneriaeth llwyddiannus yr Ysgol yw Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sy'n gweithio gyda chyfreithwyr Hugh James i helpu pobl sy'n dioddef o ddementia, sy'n talu costau cartrefi gofal yn ddiangen. Hyd yn hyn, adenillwyd dros £240,000 ar eu rhan nhw a'u teuluoedd.
Mae pecynnau cymorth a grëwyd ar y cyd â Mencap Cymru'n cynnig cyngor i oedolion ag anawsterau dysgu ynghylch ystod eang o faterion, fel tai, tra bod cynllun pro bono Undeb Rygbi Cymru yn cynnig cymorth i glybiau rygbi amatur sydd eisiau bod yn gwmnïau, fel modd o gyfyngu ar atebolrwydd cyfreithiol posibl ar gyfer unigolion sy'n rhedeg y clybiau.
Mae'r canlynol ymhlith partneriaethau eraill y mae myfyrwyr wedi bod yn rhan ohonynt:
Cynllun Cyfiawnder Byd-eang: Gyda Deighton Pierce Glynn, Amnest Rhyngwladol a RAID (Rights and Accountability in Development).
Sefydliad Cyfraith yr Amgylchedd: Cynnig cyngor ynghylch materion amgylcheddol.
Hafal: Myfyrwyr yn gweithredu fel "oedolion priodol", gan helpu pobl sy'n agored i niwed â chyfweliadau yng ngorsafoedd yr heddlu, ochr un ochr â Chyfreithwyr ar Ddyletswydd.
Asylum Justice: Cynnig cymorth gydag ymchwil gyfreithiol i geiswyr lloches.
Prosiect Arsylwi ar Fechnïaeth: Arsylwi ar wrandawiadau mechnïaeth yn Nhribiwnlys Casnewydd, ac ysgrifennu adroddiadau ar gyfer yr elusen genedlaethol hon.
Clinig Cyngor Cyflogaeth Speakeasy: Cysgodi ymarferwyr pro bono cyfraith cyflogaeth.;
Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol/Partneriaeth Blake Morgan: Helpu grwpiau cymunedol, sydd fel arfer yn edrych am gymorth ynghylch trwyddedau drafft er defnydd tir.
Canolfan Cyswllt Plant Pen-y-bont ar Ogwr: Cynorthwyo gyda sefyllfaoedd o deuluoedd yn chwalu, sy'n ymwneud â chyswllt plant â rhieni dibreswyl.
Cyngor ar Bopeth Torfaen: Bod yn gynghorwyr porth ar gyfer yr elusen genedlaethol hon.
Streetlaw yn y Tribiwnlys Cyflogaeth: Partneriaeth gyda phrifysgolion eraill sy'n darparu addysg gyfreithiol gyhoeddus i ymgyfreithwyr mewn person.
Uned Cymorth Bersonol: Cynorthwyo ymgyfreithwyr yn y Ganolfan Cyfiawnder Sifil.
Victim Support: Ateb galwadau ar linell ffôn i ddioddefwyr.
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; (WAI)/ Partneriaeth Latham a Watkins: Prosiect newydd sy'n cynnig y cyfle i fyfyrwyr ystyried materion sy'n wynebu artistiaid sydd eisiau mynd i'r DU ar ôl Brexit.
Clinig y Gyfraith Duncan Lewis: Cysgodi cyfreithwyr sy'n rhoi cyngor ynghylch mewnfudo, teuluoedd a materion ynghylch tai.