Chinese tea ceremony for international staff
24 Hydref 2019
![Qiqi Wang](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/1739190/Tea_Ceremony.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Yn ymateb i wahoddiad Rhwydwaith Staff Rhyngwladol Prifysgol Caerdydd, cynhaliodd Sefydliad Conffiwsias Caerdydd seremoni de draddodiadol mewn caffi poblogaidd yn y Waun Ddyfal ddydd Iau 17eg Hydref.
Daeth bron 40 o’r staff rhyngwladol i fwynhau’r seremoni. Mewn gwisg draddodiadol, cyflwynodd tiwtoriaid o Sefydliad Conffiwsias Caerdydd de gwyrdd a du Tsieineaidd.
![Mae Lin He, un o diwtoriaid Sefydliad Conffiwsias Caerdydd](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1739249/Lin_He_Tea.jpg?w=575&ar=16:9)
Mwynhaodd pawb y te Tsieineaidd er bod y ffordd o’i wneud (heb laeth na siwgr) a’i gyflwyno (mewn cwpanau traddodiadol) yn wahanol iawn.
Roedd cyfle i’r staff ofyn amryw gwestiynau am y te a’i rôl yn niwylliant Tsieina. Mae’n ymddangos bod te wedi dod â staff o sawl gwlad a chefndir at ei gilydd.
Rhannu’r stori hon
Dysgwch fwy am yr hyn a wnawn a sut y gallwch chi gymryd rhan.