Hyrwyddo addysg uwch y DU
9 Rhagfyr 2015
Bydd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yn mynd i India yr wythnos hon i geisio codi proffil addysg uwch y DU.
Bydd yn ymuno â dirprwyaeth bwysig o dan arweiniad Ysgrifennydd Gwladol y DU dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, Sajid Javid AS, a Gweinidog y Prifysgolion a Gwyddoniaeth, Jo Johnson AS. Eu nod fydd dathlu cysylltiadau presennol a cheisio denu myfyrwyr rhyngwladol i astudio yn y DU.
Ar wahân i Tsieina, nid oes yr un wlad arall sy'n darparu cynifer o fyfyrwyr rhyngwladol i astudio yn y DU. Mae 19,750 o fyfyrwyr o India yn astudio ar bob lefel.
Mae tua 300 o fyfyrwyr o India yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd bob blwyddyn.
Dywedodd yr Athro Syr Steve Smith, Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg a Chadeirydd Rhwydwaith Polisi Rhyngwladol Prifysgolion y DU: "Mae hon yn ddirprwyaeth o bwys ac yn gyfle i amlygu'r posibilrwydd o dyfu'r cysylltiadau rhwng prifysgolion y DU ac India.
"Bydd yn gyfle i ni ailadrodd ymrwymiad y Llywodraeth at gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i'r DU. Bydd yn gyfle hefyd i ni i atgoffa myfyrwyr ac ysgolheigion o India bod croeso iddynt yn y DU a bod cyfleoedd o hyd i raddedigion rhyngwladol cymwys aros yn y DU i weithio am gyfnod ar ôl graddio.
"Mae myfyrwyr ac ysgolheigion o India yn gwneud cyfraniad enfawr at addysg uwch a'r DU, yn academaidd, yn ddiwylliannol ac yn economaidd. Mae'r DU yn parhau i fod yn un o gyrchfannau mwyaf deniadol y byd i fyfyrwyr rhyngwladol ac mae mewn sefyllfa i elwa ar y twf a ddisgwylir ym maes addysg uwch ryngwladol."
Yn ôl Vivienne Stern, Cyfarwyddwr Uned Ryngwladol Addysg Uwch y DU (IU) a rhan o ddirprwyaeth weinidogol y DU i India: "Mae gan brifysgolion y DU a'u cymwysterau enw da ar draws y byd o ran eu hansawdd, gyda 91% o fyfyrwyr rhyngwladol yn fodlon arnynt. Dyma gyfradd uwch na'r hyn a geir mewn llawer o wledydd eraill blaenllaw lle siaredir Saesneg.
"Dyna pam mae cynifer o fyfyrwyr rhyngwladol, gan gynnwys rhai o India, yn dewis astudio yn y DU. Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan yr Uned Ryngwladol sy'n cymharu canfyddiadau myfyrwyr rhyngwladol o astudio yn y DU o'u cymharu â'r rhai a ddewisodd astudio rhywle arall, mae'r enw da hwn yn gwbl haeddiannol. Bron ym mhob categori, rydym yn well na'r prif wledydd eraill o ran boddhad myfyrwyr ac ansawdd dysgu ac addysgu."
Dyma'r Is-Gangellorion sydd yn y ddirprwyaeth:
Yr Athro Syr Steve Smith, Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg a Chadeirydd Rhwydwaith Polisi Rhyngwladol Prifysgolion y DU:
Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd Uned Ryngwladol Addysg Uwch y DU
Yr Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Caerlŷr
Peter Horrocks, Is-Ganghellor y Brifysgol Agored
Yr Athro Calie Pistorius, Is-Ganghellor Prifysgol Hull
Yr Athro Fonesig Nancy Rothwell, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Manceinion
Yr Athro John Vinney, Is-Ganghellor Prifysgol Bournemouth
Yr Athro Andrew Wathey, Is-Ganghellor Prifysgol Bournemouth
Yr Athro Stuart Bartholomew, Is-Ganghellor Prifysgol y Celfyddydau, Bournemouth