Y Symposiwm McGuigan cyntaf erioed yn dathlu arloeswyr mewn darganfod cyffuriau
13 Rhagfyr 2019
Ar 26 Medi, cynhaliodd Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Caerdydd y Symposiwm Chris McGuigan cyntaf erioed i ddathlu gwaith rhagorol ym maes darganfod cyffuriau ledled y byd. Trefnwyd y symposiwm i anrhydeddu cof yr Athro Chris McGuigan, cyn aelod o staff yn yr Ysgol Fferylliaeth a gwyddonydd blaenllaw ym maes darganfod cyffuriau, ar ôl cyhoeddi dros 200 o bapurau a chymryd pedwar o'i ddyfeisiau i dreialon clinigol gyda phobl, sy’n gamp anghyffredin iawn yn y byd academaidd.
Diolch i rodd hael gan Dr Geoff Henson, cyfaill i’r Athro McGuigan, roedd y symposiwm yn gallu dyfarnu tair gwobr i ymchwilwyr sydd wedi rhagori yn eu meysydd. Dyfarnwyd Gwobr Traethawd PhD Rhagorol McGuigan i gydnabod y traethawd ymchwil gorau mewn ymchwil yn ymwneud â darparu cyffuriau gan raddedig doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a hynny i Dr Gilda Giancotti am ei gwaith ar atalyddion c-FLIP.
Llwyddodd Di Giancotti i gwblhau ei PhD mewn Cemeg Meddyginiaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2018 o dan oruchwyliaeth yr Athro Andrea Brancale, gan weithio ar ddatblygu asiantau gwrth-ganser newydd ar gyfer trin canser y fron. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio fel cemegydd meddyginiaethol ar gyfer y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, i ddatblygu cyffuriau newydd i drin cyflyrau iechyd meddwl.
Wrth siarad am ei gwobr, dywedodd Dr Giancotti, ‘Braint o’r mwyaf yw derbyn Gwobr Traethawd PhD Rhagorol McGuigan. Mae’r wobr hon yn cynrychioli un o gyflawniadau mwyaf fy ngyrfa gynnar, ac mae’n ysgogiad pellach i fwrw ymlaen â fy ngwaith yn y maes ymchwil.
Dyfarnwyd Gwobr Seren Newydd McGuigan i Dr. Joana Rocha-Pereira o KU Leuven. Mae’r wobr hon yn cydnabod ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa sydd wedi cael effaith sylweddol, wreiddiol a gydnabyddir yn rhyngwladol. Roedd gwaith Dr. Rocha-Pereira yn canolbwyntio ar greu systemau model newydd ar gyfer darganfod meddyginiaethau sy’n targedu norofeirws.
‘Dwi’n meddwl ei bod yn arbennig iawn,’ meddai wrth drafod ei gwobr. ‘Darganfod cyffuriau oedd beth oeddwn i eisiau ei wneud, dyma pam y dewisais i astudio fferylliaeth, ac mae bod yma yn y Symposiwm er cof am ddyn sydd wedi rhoi cymaint i ddarganfod cyffuriau yn dda iawn.’
Yn olaf, mae Gwobr McGuigan am Waith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau yn wobr i gydnabod uwch ymchwilydd sydd ag enw da yn rhyngwladol ac sydd â hanes profedig o arwain wrth sbarduno neu ddatblygu egwyddorion gwyddonol newydd, neu drosi darganfod cyffuriau tuag at ddatblygu meddyginiaethau dynol.
Dyfarnwyd y wobr hon i Ralf Bartenschlager o Brifysgol Heidelberg, am ei waith ar ddod o hyd i iachâd ar gyfer hepatitis C. Enillodd yr Athro Bartenschlager ei PhD ym 1990 a dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf mae ei waith wedi cynnwys dulliau delweddu arloesol a systemau diwylliant celloedd gyda'r nod o sicrhau mewnwelediadau manwl i'r rhyngweithio cymhleth rhwng y gwesteiwr a'i bathogenau. Mae'r astudiaethau biolegol celloedd manwl hyn wedi arwain at ddatblygu cyffuriau a all wella hepatitis C mewn 94-99% o gleifion yn dilyn cwrs deuddeg wythnos, gyda'r sgîl-effeithiau lleiaf posibl.
‘Mae Gwobr McGuigan am Waith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau yn anrhydedd o’r mwyaf ac yn gydnabyddiaeth o’r gwaith a wnaeth fy nhîm a minnau, ac rwy’n hynod ddiolchgar am hynny,’ meddai’r Athro Bartenschalger. ‘Ar yr un pryd, rwy’n ystyried gwaith Chris McGuigan a minnau yn enghraifft wych o sut y gwnaeth ymchwil sylfaenol mewn cemeg feddyginiaethol a firoleg gyfrannu at therapi gwrthfeirysol haint feirws hepatitis C: Trwy ddatblygu cemeg ddyfeisgar pro-tide gan Chris a sefydlu systemau sgrinio ar sail celloedd sy'n addas ar gyfer datblygu cyffuriau gwrthfeirysol gan fy nhîm. Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf bod yn rhan o’r datblygiadau hyn a oedd yn gyfrifol am osod y sylfaen ar gyfer therapi iachaol hepatitis C cronig.’
Yn dilyn y gwobrwyo, cadeiriodd Pennaeth yr Ysgol yr Athro Mark Gumbelton drafodaeth banel hynod ddiddorol gyda David Owen, Colin Greengrass, Daniela Riccardi a Malcolm Mason, sydd oll wedi rhagori ym maes darganfod cyffuriau. Trafodwyd dyfodol meddygaeth, gyda'i holl heriau a’i gyfleoedd, mewn fforwm bywiog rhwng y panelwyr a'r gynulleidfa.
Bydd y symposiwm yn cael ei gynnal bob dwy flynedd gan yr Ysgol Fferylliaeth, ac fe groesewir y cyfle i ddathlu gwaith arloesol ym maes hanfodol darganfod cyffuriau. Meddai’r Athro Andrea Brancale, cyfaill i Chris McGuigan, ‘Roedd hi’n ddiwrnod gwych, gyda sgyrsiau gwyddonol rhagorol a sgyrsiau deallusol a oedd yn ysgogi. Dwi’n credu ei fod yn ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig, yn enwedig i'r ymchwilwyr ifanc sydd wedi cymryd rhan. Roedd hi’n ffordd addas iawn i dalu teyrnged a chofio Chris a’r person anhygoel oedd ef’.