Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau'n nodi blwyddyn arall o lwyddiant myfyrwyr

17 Rhagfyr 2019

Group photo pf all UG prizewinners
A total of 49 prizes were awarded to first, second and final year students in a range of categories at this year's Undergraduate Prizegiving

Mae israddedigion o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu llwyddiant academaidd a'u cyfraniadau ar leoliadau gyda dathliad yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion.

Yr Athro Roy Chandler oedd yn cyflwyno’r digwyddiad gwobrwyo, a’r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth yr Ysgol, oedd yn cyflwyno’r gwobrau.

Dyfarnwyd cyfanswm o 49 o wobrau i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, eu hail flwyddyn a’u blwyddyn olaf, a hynny mewn amrywiaeth o gategorïau, o’r perfformiad gorau mewn modiwlau unigol ac ar leoliad i’r myfyrwyr gorau ar draws rhaglenni gradd.

Derbyniodd naw o'r flwyddyn gyntaf anrhydeddau am eu llwyddiannau ar ddechrau eu hastudiaethau israddedig. Nodwyd mai Martha Elise Liddiard, BSc Cyfrifeg a Chyllid, Eilidh Kumar, BScEcon Economeg, a Claire Revans, BSc Rheoli Busnes, oedd y myfyrwyr gorau ar eu llwybrau gradd.

Enillodd Rasheda Ahmed, BSc Cyfrifeg a Chyllid, Jonathan Oliver Evans, BSc Rheoli Busnes a Wenjun Zheng, BScEcon Economeg a Chyllid, ddwy wobr yr un am eu perfformiad yn yr ail flwyddyn.

Daeth y tri i'r brig hefyd yn eu blwyddyn yn eu rhaglenni gradd.

Cafodd Amber Ward Stevens a Julianna Justine Imperial Paul ddwy wobr yr un am eu llwyddiannau blwyddyn olaf ar y cynlluniau gradd BScEcon Economeg a BSc Rheoli Busnes.

Enillydd mwyaf y noson oedd Glesni Mair Jones, BSc Cyfrifeg a Chyllid, a gipiodd bum gwobr gan gynnwys Gwobr Syr Julian Hodge yn dathlu'r myfyriwr gorau yn y flwyddyn olaf yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Female student collects five awards from Dean
Glesni Mair Jones picked up five awards including Best final year student at Cardiff Business School

Dywedodd yr Athro Roy Chandler: “Mae bob amser yn bleser gwobrwyo ein myfyrwyr diwyd ac rydym ni'n ddiolchgar hefyd i'n noddwyr am eu cefnogaeth hael.”

Yn ogystal â thystysgrif cyflawniad, roedd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol.  Darparwyd y gwobrau ariannol gan noddwyr corfforaethol, neu trwy’r naw cronfa oedd ar gael ar gyfer gwobrau, llawer wedi’u buddsoddi er cof am athrawon ac academyddion o fri.

“Rydym ni wedi dyfarnu cyfanswm o dros £12,000 heno. Caiff yr arian hwn ei ddefnyddio i greu yn agos i 50 o wobrau, ond gan fod cynifer o fyfyrwyr rhagorol, yn aml mae'n anodd enwi un myfyriwr arbennig ar fodiwl neu raglen.”

Yr Athro Roy Chandler Professor of Accounting

“Eleni roedd mwy o gyd-ddyfarniadau nag erioed, ac mae hynny ar ôl dadansoddi'r marciau i lawr i ddau bwynt degol!  Mae'r dystiolaeth hyd yma'n awgrymu y bydd y gystadleuaeth ar gyfer gwobrau'r flwyddyn nesaf yr un mor agos.”

Daethpwyd â’r digwyddiad i ben gan Nick Fox, Is-lywydd Ôl-raddedig yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, a fu’n llongyfarch yr enillwyr ar eu cyflawniadau, ac yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.

VP Postgraduate Nick Fox addresses audience
Vice-President Postgraduate, Nick Fox, addresses audience

Noddwyd gwobrau 2019 gan ACCA, Baldwins, Maes Awyr Caerdydd, ICAEW a’i Gymdeithas Ddosbarth leol, Clwb Busnes Caerdydd, Sefydliad Hodge, Grŵp Thomas Carrol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Gwasanaethau Ariannol Cymru a'r Rhaglen Gwyddor Data i Ôl-raddedigion.

Rhestrir yr holl israddedigion a enillodd wobr yn rhaglen y digwyddiad.

Rhannu’r stori hon

Find out more about the ways in which your organisation can work with our students, including placements and live projects.