Pedwar gobeithiol yn edrych ymlaen at wobrau cenedlaethol
11 Rhagfyr 2019
Mae pedwar o israddedigion Ysgol Fusnes Caerdydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Cyflogadwyedd Cenedlaethol i Israddedigion (NUE).
Mae'r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr yr Ysgol ar y rhestr fer yn cyfrif am yn bedwar o blith y 15 sydd wedi'u henwebu am wobrau lleoliad gwaith yn y digwyddiad cenedlaethol.
Mae eu llwyddiant yn parhau â record gref yr Ysgol yng ngwobrau'r NUE, a welodd Callum Mcintosh a Lily-Rose ar y rhestr fer yn 2019, ac Elizabeth Pescud a Ryan Hale yn ennill y gwobrau myfyriwr Lleoliad gorau a'r Intern gorau yn 2018.
Eleni, bydd William Partridge, myfyriwr BSc Rheoli Busnes blwyddyn olaf yn cystadlu yn erbyn 5 arall am Wobr y Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i Gyflogwr Bach i Ganolig. Mae'r gydnabyddiaeth yn arwydd o'r effaith a gafodd William ar ei Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn Prysm.
Mae'r wobr yn adlewyrchu diwylliant Ysgol Busnes Caerdydd o gefnogi busnesau bach ac entrepreneuriaid a olygodd ei bod wedi ennill gwobr nodedig Siarter y Busnesau Bach yn 2017.
Mae ei gyd-fyfyriwr blwyddyn olaf BScEcon Economeg, Katharine Kirkup, ar restr fer y Myfyriwr Lleoliad Gorau. Cwblhaodd ei Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Mae gwobr y Myfyriwr Lleoliad Gorau'n dathlu’r effaith wirioneddol, fesuradwy mae myfyriwr wedi’i chael ar y busnes sy’n eu croesawu ar leoliad.
Mae gan y myfyriwr trydedd flwyddyn BSc Rheoli Busnes, Daniel Hengstenberg, gyfle i ennill y wobr Intern Gorau yn dilyn ei Leoliad Gwaith Integredig yn Mercateo.
Un arall o'r pum myfyriwr israddedig sydd â chyfle i ennill y wobr Intern Gorau yw ei gyd-fyfyriwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, Sioned Murphy. Cwblhaodd Sioned, sydd yn nhrydedd flwyddyn ei gradd BSc Rheoli Busnes, leoliad gwaith integredig yn DS Smith yng Nghaerffili.
Mae'r categori Intern Gorau'n dathlu'r myfyriwr a ragorodd ar ddisgwyliadau ac a gafodd effaith wirioneddol arwyddocaol ar eu tîm, adran, neu'r busnes yn gyffredinol.
Effaith wirioneddol sy'n para
Dywedodd Alex Hicks, Rheolwr Lleoliadau Ysgol Fusnes Caerdydd: “Mae pedwar o blith y 15 o fyfyrwyr sydd wedi'u henwebu am wobrau lleoliad gwaith eleni'n dod o Ysgol Busnes Caerdydd. Mae hynny'n adrodd cyfrolau am waith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr...”
“Gollon ni'n agos iawn y llynedd, ar ôl ennill dwy wobr yn 2018. Dyma obeithio mai ni aiff â hi yn 2020!”
Mae 2020 yn nodi 11 o flynyddoedd o wobrau, a rennir yn rhestrau byr ar gyfer Cyflogwyr, Prifysgolion a Myfyrwyr, ac sy’n meincnodi ‘llwyddiant ar draws yr holl sefydliadau, prifysgolion a myfyrwyr yn y farchnad gyflogadwyedd israddedig’.
Cynhelir y seremoni yn Llundain ddydd Gwener 28 Chwefror 2020.