Canolfan Astudio Newydd a fydd yn paratoi myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer Prifysgol Caerdydd
9 Rhagfyr 2019
Bydd Prifysgol Caerdydd yn lansio Canolfan Astudio Rhyngwladol (ISC) ym mis Medi 2020, er mwyn rhoi’r cyfle i ragor o fyfyrwyr rhyngwladol i astudio mewn prifysgol uchel ei pharch yn rhyngwladol ac a arweinir gan ymchwil.
Bydd yr ISC yn rhoi mynediad i fyfyrwyr rhyngwladol at raddau israddedig ac ôl-raddedig. Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn cael eu derbyn ym mis Medi 2020.
Drwy’r cyrsiau llwybr fydd yn cael eu cynnal yn y Ganolfan ac sy’n cael eu dylunio’n benodol gan y Brifysgol, bydd myfyrwyr yn cael cynnig mynediad at amrywiaeth o gyrsiau gradd, gan gynnwys STEM, busnes, y cyfryngau a chyfathrebu a meddygaeth a deintyddiaeth.
Bydd y Ganolfan a’r darpariaeth llwybr yn cael ei rheoli gan Study Group, arbenigwr byd-eang mewn paratoi myfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y brifysgol, a’r unig ddarparwr llwybrau sydd wedi’i gofrestru gyda Chofrestr Darparwyr Addysg Uwch, Swyddfa’r Myfyrwyr (OfS).
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, “Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i dros 7,900 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 120 o wledydd, sydd wedi’u denu gan yr addysgu o’r radd flaenaf, fforddiadwyedd, a’r bywiogrwydd sydd ar gael yng Nghaerdydd.
“Mae profiad Study Group o recriwtio ac addysgu cymysgedd amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol o bob cwr o’r byd yn amhrisiadwy inni. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r garfan gyntaf i’n campws.”
Nododd James Pitman, Rheolwr Gyfarwyddwr Addysg Uwch yn y DU ac Ewrop Study Group: Mae’n bleser gennym gydweithio â Phrifysgol Caerdydd. Mae’r brifysgol yn adnabyddus am ei harbenigedd dysgu ac addysgu, ac mae cymuned fywiog o fyfyrwyr rhyngwladol yno yn barod.”