Gwobr yn nodi 'cwblhau strwythur' pwerdy ymchwil
10 Rhagfyr 2019
Mae Bouygues UK yn 'cwblhau strwythur' pwerdy Prifysgol Caerdydd ar gyfer ymchwil wyddonol – gyda chefnogaeth £5m gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid diwydiannol.
Mae consortiwm dan arweiniad Canolfan Peirianneg Amledd Uchel y Brifysgol a’r Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wedi sicrhau £2.4m o gyllid grant SMARTExpertise Llywodraeth Cymru i ddatblygu dyfeisiau electronig amledd uchel ar gyfer technolegau’r ‘genhedlaeth nesaf’ – o 5G a radar i systemau lloeren. Mae un ar ddeg o bartneriaid wedi addunedu £2.8m arall o gymorth.
Bydd y prosiect a arweinir gan ddiwydiant yn cynnwys partneriaid yng nghlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd de Cymru - CSConnected - yn gweithio ar ddylunio, ffabrigo, nodweddu arloesol ar sail tonffurf, profi a chynhyrchu sglodion. Bydd o gymorth i ymchwilwyr wrth ddatblygu technolegau Galiwm Nitrad Amledd Radio (RF-GaN) i gynhyrchu sglodion cyflymder uchel, cost-effeithiol, mwy dibynadwy a llai o faint sy’n perfformio’n well na silicon traddodiadol.
Dywedodd yr Athro Khaled Elgaid sy’n arwain y tîm academaidd: “Mae Galiwm Nitrad (GaN) yn prysur ddod yn dechnoleg y mae llawer o gymwysiadau newydd yn ei dewis, yn cynnwys cyfathrebu 5G, radar arae-cyfnodol cydraniad uchel, cyfarpar rhyfel electronig, radar osgoi gwrthdaro modurol, cymwyseddau gofal iechyd a delweddu.
“Mae poblogrwydd GaN yn deillio o nodweddion deniadol y dechnoleg, yn cynnwys foltedd gweithredu uchel ac amledd gweithredol uchel (yn cefnogi marchnadoedd 5G sy’n ymddangos gyda system telegyfathrebu effeithlonrwydd uchel, â chyfradd data uwch a chwmpas ehangach). Yn ogystal, mae’r dwysedd pŵer uchel a’r perfformiad thermol rhagorol yn cynnig cynlluniau cryno a chadernid gweithrediadol mewn amgylcheddau anodd, yn cynnwys cymwyseddau yn y gofod.”
Mae’r cyhoeddiad heddiw am gyllid yn cyd-fynd â seremoni ‘cwblhau’r strwythur’ yng Nghyfleuster Ymchwil Drosiannol y Brifysgol, canolfan uwch-dechnoleg fydd yn cynnwys ymchwilwyr a diwydiant sy’n ymwneud â gwyddor lled-ddargluddydion cyfansawdd a chatalytig.
Bydd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, Prif Weithredwr Bouygues UK Rob Bradley ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd yr Athro Colin Riordan yn ‘cwblhau’r strwythur’ drwy ychwanegu eu llofnodion ar drawst ar frig yr adeilad.
Dywedodd Kirsty Williams wrth groesawu’r dyfarniad cyn y seremoni heddiw: “Rwy’n edrych ymlaen at yr ymweliad heddiw i ddysgu mwy am y cyfleoedd gwirioneddol sy’n cael eu creu drwy raglen SMARTExpertise yng Nghymru.
“Caiff y rhaglen ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnig cymorth ariannol i brosiectau cydweithredol arloesol rhwng diwydiant a chyrff ymchwil Cymreig.
“Mae’r prosiectau cydweithredol hyn yn ymdrin â heriau diwydiannol strategol ac yn cynnig cyfle i fasnacheiddio cynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd ynghyd â thwf mewn meysydd allweddol.”
Ychwanegodd Rob Bradley: “Mae cwblhau’r strwythur yn defnyddio traddodiad oesol yn y diwydiant adeiladu i nodi’r adeilad technegol mwyaf modern. Rydym ni’n falch iawn i nodi brig y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol - canolfan i wyddorau sy’n arwain y byd fydd yn dod â buddion i ddiwydiant a’r economi ehangach.”
Dywedodd yr Athro Riordan: “Mae dyfarniad SMARTExpertise RF-GaN yn goron berffaith ar y seremoni i gwblhau strwythur y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol. Mae’r adeilad a’r prosiect ill dau’n ymrwymo i weithio gyda diwydiant i ddatgloi pŵer ymchwil. Bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn wir Gartref Arloesedd.”
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o aelodau sefydlu CSConnected – clwstwr ag arbenigedd lled-ddargludyddion ar draws de Cymru sy’n dod â phartneriaid academaidd, diwydiannol a chadwyn gyflenwi at ei gilydd.
Mae’r Brifysgol wedi datblygu’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – a gaiff ei lleoli yn y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol – a sefydlu’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), menter ar y cyd â IQE i helpu i drosi gwybodaeth academaidd ar led-ddargludyddion i greu swyddi gyda diwydiant.
Bydd Ysgol Peirianneg Caerdydd yn gweithio ochr yn ochr â’r Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSAC) ac ICS i gyflawni’r prosiect lled-ddargludyddion.
Dywedodd Dr Tudor Williams, Pennaeth RF a Microdon yn y Catapwlt CSA: “Mae’r gyffrous fod cyfle gan y Clwstwr Lled-ddargludyddion gyfle i gyflawni prosiect sylweddol fydd yn llenwi bylchau a nodwyd mewn dyfeisiau GaN RF ar draws cadwyn gyflenwi’r DU. Mae gan brosiect SMARTExpertise gonsortia cryf gyda defnyddwyr mewn marchnadoedd amddiffyn a defnyddwyr fydd yn sbarduno datblygu technoleg wedi’i theilwra. Bydd SMARTExpertise yn gatalydd ar gyfer prosiectau a gweithgareddau yn y dyfodol, gan arwain at fuddion economaidd i Gymru a’r DU.”
Bydd Sefydliad Catalysis Caerdydd hefyd yn cael ei lleoli yn y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol. Mae’r Sefydliad yn gwella dealltwriaeth o gatalysis, gan weithio gyda diwydiant i ddatblygu prosesau catalytig newydd a hyrwyddo defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.
Croesawodd Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Duncan Wass, y seremoni. “Bydd y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol yn cynnig cyfleusterau pwrpasol i Sefydliad Catalysis Caerdydd fydd yn gadael i ni adeiladu ar ein record ragorol o ddatblygu ymchwil academaidd sylfaenol sy’n cyflawni anghenion diwydiant.”
Disgwylir i’r adeilad agor ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn 2021.