ASau yn ymweld ag Uwchgyfrifiadura Cymru
6 Rhagfyr 2019
Mae aelodau o Bwyllgor yr Economi, Isadeiledd a Sgiliau Llywodraeth Cymru wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd i gael cipolwg ar yr wyddoniaeth a’r arloesedd uchel eu proffil a gynhelir yn ei chyfleusterau uwchgyfrifiadura blaengar.
Cafodd y Pwyllgor drosolwg o brosiect £16 miliwn Uwchgyfrifiadura Cymru, sy’n dod â Phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth ynghyd er mwyn harneisio pŵer technoleg cyfrifiadura perfformiad-uchel a mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf brys y byd.
Ers ei lansio yn 2018, mae Uwchgyfrifiadura Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, wedi galluogi prifysgolion i ddenu mwy o gyllid allanol am ymchwil, cynyddu partneriaethau gwyddonol, creu swyddi ymchwil sgilgar iawn, a chefnogi cydweithrediadau â phartneriaid diwydiannol a rhai eraill.
Mae llawer o’r gwaith yr ymgymerir ag e drwy Uwchgyfrifiadura Cymru wedi’i alinio’n agos â meysydd sy’n bwysig dros ben i economi Cymru, gan gynnwys deunyddiau nanoraddfa a pheirianneg flaenllaw; ynni a’r amgylchedd; a’r gwyddorau bywyd ac iechyd.
Ymddygiadau pathogenau
Yn rhan o’r ymweliad, cafodd y Pwyllgor drosolwg o waith Dr Tom Connor o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd.
Mae ymchwil Dr Connor yn ystyried sut mae pathogenau - yr organebau bach iawn sy’n achosi clefydau - yn ymddwyn yn wahanol a sut maent yn esblygu ac yn lledaenu mewn achosion lleol a byd-eang o glefyd.
Yn rhan o’i ymchwil, mae Dr Connor yn dadansoddi DNA y pathogenau i archwilio sut maent yn perthyn i organebau eraill o ddiddordeb neu’n wahanol iddynt. At y diben hwn mae angen cryn dipyn o waith dadansoddi a phrosesu data sy’n bosibl â chyfleusterau uwchgyfrifiadura yn unig.
Tra bod cyfrifiadur desg yn cynnwys pedwar ‘craidd prosesu’ fel arfer, mae uwchgyfrifiaduron yn cynnwys miloedd o greiddiau. Felly, gall gwyddonwyr a pheirianwyr eu defnyddio i ddatrys problemau lle mae angen cyfradd uchel o waith cyfrifo neu efelychu.
Hefyd, mae Dr Connor yn gweithio’n agos gyda’r GIG i drosi’r dulliau hyn yn offer diagnostig a gwyliadwriaeth a ellir eu defnyddio ar lefel leol a chenedlaethol.
Cyn yr ymweliad, dywedodd yr Athro Roger Whitaker o Brifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Academaidd Uwchgyfrifiadura Cymru: “Mae’r prosiect hwn wedi cynnig newid graddol ym maes ymchwil wyddonol a alluogir gan uwchgyfrifiadura yng Nghymru."
“Rydym wir wrth ein boddau’n croesawu Pwyllgor yr Economi, Isadeiledd a Sgiliau i’r Brifysgol er mwyn arddangos rhai o’r datblygiadau gwyddonol sy’n torri tir newydd ac yn cael effaith go iawn ar fywydau pobl yma yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Meddai Russell George AS, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Isadeiledd a Sgiliau: “Roedd y Pwyllgor yn falch o gael ei wahodd i Uwchgyfrifiadura Cymru a hoffai ddiolch i Brifysgol Caerdydd am gynnal digwyddiad mor addysgiadol. Mae Uwchgyfrifiadura Cymru’n chwarae tair rôl hanfodol wrth ddatblygu ein heconomi. Mae’n helpu i gadw ymchwil Cymru ar flaen y gad, yn galluogi ein prifysgolion i hyfforddi gwyddonwyr cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn cynnig gallu cyfrifiadurol i fusnesau a chymdeithas Cymru ei ddefnyddio at ddibenion arloesi. Mae’r cyfryw gyfleusterau’n gonglfaen i ddyfodol economi Cymru.”