Deall dadansoddi data diogel
6 Rhagfyr 2019
Cynhelir gweithdy fydd yn ystyried preifatrwydd a sut rydym yn defnyddio data ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Rhagfyr ac yn cael ei drefnu gan ddarlithwyr o Brifysgol Caerdydd, Dr Christian Arnold a Dr George Theodorakopoulos, ar y cyd â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae data unigolion yn cael ei gasglu ar raddfa ddigynsail, ac yn aml iawn, mae’r data hwnnw’n sensitif. Mae cwmnïau fel Facebook, Google a Twitter, ond hefyd asiantaethau’r llywodraeth fel y GIG, yn crynhoi data am bob un ohonom ni sy’n golygu bod diogelu data’n destun pryder i bawb.
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddata synthetig preifat. Mae data synthetig preifat yn gopi o ddata gwreiddiol (h.y. taenlenni) sy’n cynnwys unigolion artiffisial gan gadw’r holl wybodaeth ystadegol. Mae hyn yn golygu y gall data synthetig gael ei gadw’n ddienw; nodwedd sy’n hynod ddefnyddiol mewn meysydd gwyddonol a meddygol.
Dyma’r tro cyntaf y mae’r holl randdeiliaid perthnasol o’r diwydiant data, y llywodraeth ac academia yn y DU yn dod ynghyd i rannu eu profiadau a’u cyngor. Bwriad y gweithdy hwn yw dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd ym maes data synthetig er diogelwch preifatrwydd o’r gwyddorau cyfrifiadurol, ystadegaeth a chefndiroedd cymhwysol fel y gwyddorau cymdeithasol. Ei nod yw amlygu datblygiadau diweddar yn y disgyblaethau perthnasol ac ysgogi trafodaeth ryngddisgyblaethol.
Mae’r gweithdy wedi denu siaradwyr o amrywiaeth fawr o sefydliadau sy’n cylchdroi o gwmpas data. Maent yn cynnwys Fionntán O’Donnell o’r Sefydliad Data Agored, Pierre-Andre Maugis o Privitar ac Ioannis Kaloskampis o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fydd yn bresennol yn y digwyddiad.
Ynghylch ei ddigwyddiad, dywedodd Dr Arnold, “Mae rhannu data a gwybodaeth gan ddiogelu preifatrwydd unigolion ar yr un pryd yn un o brif heriau digideiddio.”
Cewch ragor o wybodaeth ar yr hafan bwrpasol ar gyfer y gweithdy. Cysylltwch â Dr Christian Arnold os hoffech chi ddod i’r digwyddiad.