Ewch i’r prif gynnwys

Atgyfodiad cyffuriau sy’n cynnwys asid ffosffo-amino

6 Rhagfyr 2019

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu dull newydd sy’n hwyluso ffyrdd o ddarganfod cyffuriau sy’n cynnwys asidau ffosffo-amino.

Ers degawdau, rydym yn gwybod bod proteinau’n cydosod i ffurfio cymhlygion sy’n chwarae rôl hanfodol mewn datblygiad llawer o glefydau, gan gynnwys canser. Er bod cydosodiad y cymhlygion hyn yn cael ei sbarduno a’i ddal ynghyd ar wahanol ffurfiau, mae addasu asidau amino penodol drwy ffosfforyleiddio ymhlith y signalau allweddol sy’n galluogi cymhlygion protein i ddal eu hunain ynghyd. Mae’r ffenomen hon yn cynhyrchu asidau ffosffo-amino, sy’n ffitio i mewn i bocedi o’r proteinau partner, ar ffurf clo ac allwedd, i gyfryngu digwyddiadau signalu pwysig o fewn celloedd.

Mae ymdrechion i dargedu’r cymhlygion protein hyn a ddelir gan ffosffo-serin o derm asid ffosffo-amino naturiol wedi’u cyfyngu oherwydd yr anhawster a wynebir gan foleciwlau sy’n cynnwys ffosffo-serin rhag mynd i mewn i gelloedd. I fynd i’r afael â hyn, mae Dr Mehellou a’i dîm wedi paratoi strategaeth newydd sy’n hwyluso mynediad ffosffo-serin i mewn i gelloedd.  Cafodd y dull hwn ei ddefnyddio ar gyfer moleciwlau a allai ddifa celloedd canser, a dangosodd ei waith fod y strategaeth newydd hon yn gwella eu gweithgarwch gwrth-ganser.

Datganodd Dr Mehellou, a arweiniodd yr astudiaeth, fod “ein dull newydd o gyflwyno moleciwlau sy’n cynnwys ffosffo-serin i mewn i gelloedd wedi mynd i’r afael â her lem o ran darganfod meddyginiaethau newydd.  Wir, bydd ein dull newydd yn agor maes targedu cymhlygion protein mewn celloedd, yr oedd gwyddonwyr yn eu hystyried yn anodd iawn eu targedu hyd yn ddiweddar, â phenodolrwydd ardderchog. Yn y pen draw, bydd hyn yn arwain at ddarganfod meddyginiaethau newydd a allai drin gwahanol fathau o ganser.”

Gellir cael gafael ar ganfyddiadau’r astudiaeth yma.

Rhannu’r stori hon