‘Iselder yn ystod beichiogrwydd yn newid ymddygiad babanod gwryw - heb i famau sylwi’
6 Rhagfyr 2019
Nid yw menywod sy’n dangos symptomau iselder a gorbryder yn ystod beichiogrwydd yn rhoi gwybod am bryderon ynghylch ymddygiad eu meibion pan maent yn fabanod - ond maent yn sylwi ar ymddygiad eu merched, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.
Mae cynifer ag un o bob pedwar o fenywod yn dioddef iselder ac/neu gorbryder yn ystod beichiogrwydd ac mae tystiolaeth yn dangos y gall gynyddu’r risg o anawsterau ymddygiadol, yn enwedig mewn bechgyn.
Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar blant mamau a oedd wedi nodi symptomau iselder a gorbryder yn ystod eu beichiogrwydd. Yn benodol, roedd ymchwilwyr yn edrych ar ba ddangosion cynnar o anawsterau oedd yn amlwg yn y plant hyn pan oeddent yn flwydd oed.
Nododd yr ymchwilwyr oedi ieithyddol a thystiolaeth o anawsterau emosiynol ymhlith babanod gwryw, ond nid ymhlith babanod benyw. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau mewn astudiaethau eraill.
Canfyddiad mwyaf annisgwyl yr astudiaeth hon oedd nad oedd y mamau a oedd wedi’u heffeithio yn sylwi ar anawsterau eu babanod gwryw - ond roeddent yn sylwi ar anawsterau gyda’u merched.
Dywedodd yr Athro Rosalind John, prif awdur yr astudiaeth: “Un o ganfyddiadau allweddol ein hastudiaeth oedd bod mamau oedd yn nodi symptomau iselder a gorbryder uwch yn ystod beichiogrwydd yn nodi llai o agosatrwydd at eu baban, bod y baban yn fwy ymosodol, ac yn llai tawel, os mai benyw oedd y baban, ond nid oes taw gwryw ydoedd.
“Ar y llaw arall, roedd ein hasesiad amcan yn dangos bod orbryder neu iselder y fam cyn y geni yn cael mwy o effaith ar fabanod gwryw, ond nid oedd eu mamau yn sylwi ar hyn.”
Dywedodd yr Athro Stephanie van Goozen, cyd-ysgrifennydd yr astudiaeth, o Ysgol Seicoleg y Brifysgol: “Nid yw mamau sy’n cael anawsterau meddyliol eu hunain yn sylwi bod problemau gan eu meibion hefyd; yn y sefyllfaoedd hyn, nid yw eu meibion yn cael y gefnogaeth y gall fod arnynt eu hangen yn gynnar mewn bywyd.”
Dywedodd yr Athro John, o Ysgol y Biowyddorau, er bod merched yn ymddangos fel petaent heb eu heffeithio yn fabanod, gallent ddioddef nes ymlaen yn eu bywydau.
Roedd y mamau yn cymryd rhan yn astudiaeth ‘Grown in Wales’ sy’n edrych ar y berthynas rhwng symptomau hwyliau cyn geni, nodweddion genomig placentaidd a deilliannau’r plant.
Gofynnwyd iddynt gwblhau holiaduron am eu babanod blwydd oed, gan gynnwys cwestiynau am eu hagosatrwydd at y baban a chymeriad y baban.
Gwahoddodd yr ymchwilwyr y mamau i ddod â’u babanod i leoliad ymchwil ar gyfer asesiad annibynnol. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar y plant yn chwarae â theganau a rhyngweithio â’u Mam.
Fe wnaeth 113 Mam lenwi’r holiadur, ac aeth 76 ohonynt i’r asesiad i fabanod.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn Journal of Affective Disorders, ar fenywod a oedd wedi dewis esgor drwy grothdoriad. Dywedodd yr Athro John bod angen gwneud mwy o ymchwil er mwyn gweld yr un tueddiadau mewn grwpiau eraill o famau, a chynnwys tadau, a deall gogwydd o ran rhyw.