Ewch i’r prif gynnwys

Myfyrwyr MArch II yn archwilio modd o ddatrys effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar Ynysoedd Sili

10 Rhagfyr 2019

MArchII
MArch II students in discussion about climate change solutions

Ymwelodd myfyrwyr o uned 1.5° MArch II ag Ynysoedd Sili ym mis Hydref er mwyn archwilio effeithiau'r cynnydd yn lefel y môr ar y gymuned yn Hugh Town.

Yn dilyn ymweliad â'r safle, mae'r myfyrwyr wedi bod yn gweithio ar brosiect Primer, gan archwilio modd dolen gaeedig, ar sail systemau o ddatrys materion pob dydd oedd, yn eu tyb nhw, yn effeithio ar drigolion yr ynys.

Yn y lle cyntaf, bu'r myfyrwyr yn gweithio fel grŵp i archwilio a deall bywyd ar yr ynysoedd, gan nodi nifer o'r materion y mae'r gymuned yn eu hwynebu o ganlyniad i fod ymhell o bob man, yr economi dymhorol, a bod yn agored i niwed oherwydd effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. Drwy archwilio ecosystemau, isadeiledd a diwydiannau'r ynys, roeddent wedi gallu nodi adnoddau sy'n cael eu tanddefnyddio a ffrydiau gwastraff y gellir eu hystyried o'r newydd gyda swyddogaeth a gwerth newydd i fynd i'r afael ag anghenion yr ynys. Drwy ddysgu mwy o fyd natur a deall egwyddorion bioddynwarededd, roedd y myfyrwyr wedi gallu cynnig atebion oedd yn sicrhau bod prif werth yr adnoddau'n cael eu cadw mewn dolenni adnewyddadwy, heb unrhyw ollyngiadau neu wastraff.

'Diben y briff hwn oedd annog y myfyrwyr i herio'r atebion confensiynol a llinol – sy'n aml yn wastraffus – y mae bodau dynol yn eu creu, a dysgu o ecosystemau naturiol, lle nad yw'r cysyniad o wastraff yn bodoli. Un o'r testunau allweddol y cyfeiriom ni ato ar gyfer prosiect Primer oedd 'Biomicry in Architecture' gan Michael Pawlyn, felly roeddem wrth ein boddau bod Michael wedi galw heibio i adolygu gwaith ein myfyrwyr yn eu hadolygiadau diwedd tymor yr wythnos hon. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut bydd ein myfyrwyr yn defnyddio’r dull meddwl ar sail systemau hwn ar gyfer eu prosiectau Thesis pensaernïol y tymor nesaf.' Matt ac Elly, Arbor Architects

Mae'r uned yn rhan o raglen Astudiaethau Archeolegol (MArch), Prifysgol Caerdydd, rhaglen dwy flynedd sy'n datblygu sgiliau dylunio pensaernïol graddedigion i lefel uwch ac yn cynnig llwybr cwbl achrededig tuag at fod yn bensaer proffesiynol yn y DU.

Rhannu’r stori hon