Myfyriwr Graddedig o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn lansio Panel Adolygu Dylunio
6 Rhagfyr 2019
Mae un o raddedigion y Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol (PgDip) wedi lansio ei Banel Adolygu Dylunio ei hun, sy’n gweithredu’n genedlaethol.
Creodd Jonathan Braddick y Panel Adolygu Dyluniadauer mwyn cynnal proses adolygu ddiduedd, amlddisgyblaethol, adeiladol ac arbenigol yn ystod y cam cyn cyflwyno cais am broses gynllunio i ymgeiswyr ac awdurdodau lleol, sy’n helpu i gyflymu a hwyluso’r broses gynllunio wrth wella ansawdd y dylunio yn yr amgylchedd adeiledig.
Dywedodd Jonathan:
Roedd y cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn hynod drylwyr ac amrywiol a rhoddodd ddealltwriaeth ardderchog i mi o ystod eang o faterion sy’n ymwneud ag ymarfer proffesiynol, gweinyddu contractau a materion eraill sy’n gysylltiedig â’r diwydiant cyfan. Rwy’n teimlo bod y cwrs wedi rhoi’r sylfaen a’r hyder i mi ddechrau a chynnal fy ymarfer pensaernïol fy hun yn ogystal â lansio panel adolygu dylunio cenedlaethol.
Rydw i’n credu mai’r sgiliau a’r wybodaeth y gwnes i eu dysgu ar y cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru sydd wedi fy ngalluogi i sefydlu a rhedeg fy musnes a chydlynu cronfa fawr o arbenigwyr amlddisgyblaethol yr amgylchedd adeiladu. Er mwyn rheoli a chadeirio proses y panel adolygu dylunio’n llwyddiannus, mae’n hanfodol adnabod a mynegi’r hyn sy’n gwneud dyluniad da, yn ogystal â deall elfennau masnach a deddfwriaethol ehangach y diwydiant adeiladu; mae’r rhain yn sgiliau a ddysgais yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.
Yr Athro Sarah Lupton sy’n cyfarwyddo’r Diploma mewn Ymarfer Proffesiynol, ynghyd â’r cwrs Meistr mewn Gweinyddu Dylunio newydd.
Mae Sarah yn fwy na pharod i ateb ymholiadau am y ddwy raglen, ebostiwch lupton@caerdydd.ac.uk.