Newid systemig yn hanfodol wrth fynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd byd-eang
2 Rhagfyr 2019
Mae’r Athro Roberta Sonnino o Brifysgol Caerdydd wedi rhybuddio bod gofyn i lywodraethau cenedlaethol gynyddu ac ehangu arloesiadau bwyd systemig llwyddiannus i drechu ansicrwydd bwyd byd-eang.
Yn ystod ei phrif ddarlith yn Ymgynghoriad Rhyngwladol Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO) y Cenhedloedd Unedig (UN) ar yr Agenda Fwyd Drefol yn Rhufain, pwysleisiodd yr Athro Sonnino bod angen meddwl yn systemig am fwyd ar frys.
“Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydnabod bod yr enghreifftiau mwyaf datblygedig o arfer gorau wrth feddwl am fwyd yn systemig – fel polisïau bwyd integredig ac economïau bwyd cylchol – wedi datblygu mewn ardaloedd trefol. Mae’n rhaid i ni ddeall beth yw’r rheswm am hynny a pham nad yw meddwl yn systemig ac arfer creadigol wedi dod i’r amlwg mewn ardaloedd eraill. Tan i ni wneud hynny, nid oes gennym ni unrhyw obaith o drechu’r rhwystrau o ran mabwysiadu a gweithredu’r arloesiadau hyn mewn mannau eraill.
Roedd yr Athro Sonnino, Athro Polisi a Chynllunio Amgylcheddol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn annerch cynulleidfa amrywiol o gynrychiolwyr o’r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector yn yr Ymgynghoriad yn Rhufain. Ymhlith y gynulleidfa yr oedd unigolion o lywodraethau cenedlaethol ac is-lywodraethau, rhwydweithiau a chynghreiriau dinas, ymchwilwyr ac arbenigwyr pwnc ochr yn ochr a rhanddeiliaid o sefydliadau masnachol, cymdeithas sifil a mentrau byd-eang.
Roedd yn Ymgynghoriad yn cynnwys nifer o brif gyflwyniadau, byrddau crwn rhyngweithiol a thrafodaethau llawn gyda’r nod o nodi arferion da mewn systemau bwyd; nodi’r heriau a’r bylchau sy’n parhau wrth geisio pontio polisïau bwyd cenedlaethol a lleol; a datblygu mecanweithiau a strategaethau i efelychu systemau bwyd effeithlon a chynhwysol sy’n gweithredu’n dda.
Wrth ddychwelyd i Gaerdydd, dywedodd yr Athro Sonnino: “Mae sicrhau sicrwydd bwyd a maeth yn hanfodol – yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol. Rwy'n credu'n gryf bod cofleidio polisi bwyd creadigol sy’n hyrwyddo ac yn hwyluso yn fuddsoddiad mewn iechyd dynol ac amgylcheddol yn y dyfodol. Mae’n rhaid i ni wella’r cyfathrebu, y cydweithio a’r cydweithredu rhwng llywodraethau cenedlaethol a lleol er mwyn helpu i wireddu’r nod hwn ac mae’n rhaid i’n ffocws fod ar gynhyrchu a rhannu gwybodaeth, buddsoddi mewn seilwaith a chyflwyno mesurau deddfwriaethol a rheoleiddiol. Bydd hyn yn helpu i ddatrys y problemau rydym ni’n eu hwynebu heddiw ond hefyd yn creu’r system fwyd gwydn a chynaliadwy sydd ei hangen arnom i sicrhau #ZeroHunger a diogelu cenedlaethau’r dyfodol.”
Mae’r Athro Sonnino yn awdurdod a gaiff ei chydnabod yn rhyngwladol mewn daearyddiaeth bwyd ac mae’n gynghorydd i’r Comisiwn Ewropeaidd yn ogystal â Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig. Mae ei harbenigedd ymchwil yn cynnwys systemau bwyd lleol, caffael bwyd cyhoeddus a llywodraethu bwyd trefol.
Yn gynharach eleni, lansiodd y Sefydliad Bwyd ac Amaeth ei Agenda Fwyd Drefol i lywio ymdrechion, buddsoddiad ac ymyriadau’r Cenhedloedd Unedig ar fwyd trefol, gan fynd i'r afael â materion cynaliadwyedd ac ansicrwydd. Roedd yr Athro Sonnino yn rhan hanfodol o’r broses o ddatblygu’r Agenda. Gallwch ei ddarllen yn llawn i gael rhagor o wybodaeth am ddyheadau’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth i weithredu newid go iawn sy’n para ac i gyflawni’r targed o #ZeroHunger erbyn 2030.