Gwella profiad dysgu myfyrwyr
12 Rhagfyr 2019

Mae’r tîm sydd y tu ôl i adolygiad rhaglenni addysgu ôl-raddedig Ysgol Busnes Caerdydd wedi’i gydnabod am wella profiad dysgu’r myfyrwyr yn eithriadol yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2019.
Cynrychiolwyd y grŵp ar draws ysgolion, y gwasanaethau proffesiynol a’r colegau gan Dr Sarah Hurlow a Dr Stephanie Slater o Ysgol Busnes Caerdydd, Julie Savill, Uwch-ddadansoddwr Marchnad ym Mhrifysgol Caerdydd a Rachel Squire, Rheolwr Marchnata Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Enillodd y grŵp wobr yn y digwyddiad dathlu ar 14 Tachwedd yn y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr.
Mae’r gwobrau’n dathlu staff Prifysgol Caerdydd sy’n mynd yr ail filltir, ar draws ystod o gategorïau gwobrau. Maent yn gwobrwyo llwyddiannau gan unigolion, timau ac ar y cyd mewn amrywiaeth o gategorïau, ac maent yn cydnabod cyfraniadau gan staff sy'n gweithio ym mhob maes yng ngweithgareddau'r Brifysgol gan gynnwys:
- gwobrau i staff y Gwasanaethau Proffesiynol
- gwobrau i staff Academaidd Caerdydd
- gwobrau i staff ar unrhyw lwybr gyrfa.
Eleni, cafodd 154 o aelodau staff unigol a grwpiau o staff eu henwebu ar draws 15 o gategorïau.
Yn ogystal â’r enillwyr, cyrhaeddodd y tîm sydd y tu ôl i Ddiwrnod Cymunedol Ysgol Busnes Caerdydd y rhestr fer, ochr yn ochr â staff a fu’n hyrwyddo mentrau cynaliadwyedd amgylcheddol, rhagoriaeth o ran gwasanaeth a rhagoriaeth mewn addysgu ac ysgolheictod.
“Set drawsnewidiol o raglenni”
Wrth ystyried cyflawniadau ei chydweithwyr, dywedodd yr Athro Rachel Ashworth, Dean Ysgol Busnes Caerdydd: “Rwy’n falch iawn o’n holl enwebeion oherwydd cafodd pob un ei ethol oherwydd y gwahaniaeth maen nhw wedi’i gael ar ansawdd bywyd myfyrwyr a staff drwy wella profiad myfyrwyr, lles staff a chynaliadwyedd amgylcheddol...”

“Roedd yn wych gweld Tîm Adolygu Rhaglenni Ôl-raddedig CARBS – sef perthynas gydweithio rhwng cydweithwyr yn y gwasanaethau proffesiynol a staff academaidd ar draws yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol yn ehangach – yn casglu eu gwobr. Maen nhw wedi gweithio’n galed gyda’i gilydd i greu set drawsnewidiol o raglenni a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i brofiad dysgu ein myfyrwyr ôl-raddedig.”
“Ein pobl eithriadol”

Cynhaliwyd y digwyddiad gan yr Athro Karen Holford, y Dirprwy Is-ganghellor a Deborah Collins, y Prif Swyddog Gweithredu.
Meddai’r Athro Holford: “Roedd yn noson wirioneddol ysbrydoledig ac roeddwn yn falch iawn o gyd-gynnal y gwobrau hyn sy'n dathlu ein pobl eithriadol...”

“Unwaith eto, gwelsom amrywiaeth eang o waith gwych a hoffwn ddiolch i bawb a enwebodd gydweithiwr, a llongyfarch yr holl enwebeion ac enillwyr am eu brwdfrydedd a’u rhagoriaeth eithriadol.”
“Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ar draws y Brifysgol sydd yn ei gwneud yn lle arbennig iawn i weithio ac astudio ynddo.”
Meddai Deborah Collins: “Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o Ddathlu Rhagoriaeth yng Nghaerdydd, ac roedd yn ddigwyddiad gwych. Roeddwn yn falch iawn o gyd-gynnal y gwobrau, a chydnabod gwaith rhagorol cymaint o'n cydweithwyr...”

“Roeddwn yn arbennig o falch o wobrwyo rhagoriaeth ein staff Gwasanaethau Proffesiynol. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr ac enwebeion – rydych chi'n glod i chi eich hun, eich Ysgolion a'ch Adrannau, a'r Brifysgol ehangach.”

Yn ogystal â’r 15 gwobr, rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i Sara Pepper o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant a enillodd Wobr yr Is-ganghellor am Gyfraniad Eithriadol i’r Brifysgol.
Dyma restr o’r holl enillwyr a chyfle i wylio ffilmiau byr am y rhai a enwebwyd ym mhob categori.